Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am y ffaith na chynhyrchwyd emynwyr gan y Diwygiad diweddaf, a gychwynnwyd trwy Mr. Evan Roberts, yn 1904. Pa syniadau bynnag a goleddir am y Diwygiad hwnnw, prin y medr neb ddal fod ei ddylanwad yn gyffredinol; ni adawodd lawer o'i ôl ar y dosbarth mwyaf meddylgar a llengar, ac o'r dosbarth hwn y ceir emynwyr mawr. Y mae'n rhaid wrth rywfaint o awen, a pheth diwylliant meddwl, i gynhyrchu emynau. Ni wna hyd yn oed ysbrydoliaeth emyn onid trwy awen.

Eithr yr hyn a bwysleisiwn ydyw, na all bardd, boed fawr neu fach, gyfansoddi emyn gwir dda oni fydd tan ddylanwad y tân a geir mewn Diwygiadau ysbrydol.

Gresyn am lawer rheswm na fai un llyfr emynau i'r holl enwadau. Arbedid llawer o egni ac arian i enwadau a chyfundebau sy'n methu â chyfarfod gwahanol ofynion yr oes arnynt. Dygai llyfr emynau cyffredin yr enwadau i undeb gwell, ac i gydweithredu ar achlysuron arbennig. Eithr yn fwy na dim diogelid yr emynau goreu, hen a diweddar, i bob eglwys trwy'r wlad. Gwelir yn amlwg oddiwrth y llyfrau a ddefnyddir yn bresennol bod tuedd ymhob enwad i anfarwoli gwaith ei emynwyr ei hun, a gwaith rhai nad ydynt emynwyr. Ni chydnabyddir yn gyffredin bod Iolo Morgannwg yn emynydd, eithr y mae Llyfr Emynau'r Undodwyr yn cynnwys llawer o'i waith.

Yn y flwyddyn 1885 cyhoeddodd Mr. Thomas Gee gasgliad o Salmau a Hymnau tan yr enw "Emynau y Cysegr." Y maent, ebr ef, "wedi eu dethol o weithiau'r emynwyr goreu, hen a diweddar, gyda'r amcan o gadw llaweroedd o'r hen emynau a'r penillion rhagorol sydd wedi eu gadael allan o'r casgliadau diweddar rhag myned ar ddifancoll, . . . . a chasglu at ei gilydd hefyd yr emynau goreu sydd yn arferedig gan y gwahanol enwadau Cymreig y dyddiau hyn."

Ymddengys y gobeithiai Mr. Gee y mabwysiedid ei gasgliad yn fuan gan holl enwadau Cymru, eithr gobeithiai'n ofer, oblegid y mae pob enwad wedi cyhoeddi casgliad newydd er pan gyhoeddwyd " Emynau y Cysegr."