Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Edmwnd Prys
ar Wicipedia





PENNOD II.

EDMWND PRYS.


DYSG haneswyr mai oes dywyll a hygoelus oedd oes Edmwnd Prys. Ffynnai ofergoeledd trwy Gymru, ac yn ol cywyddau rhai o'r beirdd yr oedd llawer o dreisio ar y gwan gan y cryf. Nid oedd chwaith lewych ar grefydd y Werin na graen ar ei moes. Eithr mewn ystyr lenyddol y cyfnod hwn hefyd oedd un o'r cyfnodau hynotaf a gwerthfawrocaf yn hanes y genedl. Dyma gyfnod William Llŷn, Sion Tudur, Gwilym Ganoldref, Morus Cyffin, William Salsbri, y Ficer Pritchard, yr Esgobion William Morgan a Richard Davies, Edmwnd Prys ac eraill—sêr disglair i gyd, a Salsbri, Morgan, a Prys y disgleiriaf ohonynt. Gwnaeth y tri hyn waith a erys yn werthfawr. Rhoddodd Salsbri y Testament Newydd mewn Cymraeg yn 1567; cyfieithodd y Doctor Morgan yr holl Feibl i'n hiaith, a chyhoeddwyd ef yn 1588, ac yn 1621 caed y Salmau "wedi eu cyfieithu a'u cyfansoddi ar Fesur Cerdd yn Gymraeg " gan Edmwnd Prys.

Ai prinder parch i'w gwŷr mawr a bair i'r Cymry fod mor hwyrfrydig i anrhydeddu eu coffadwriaeth? Gosodwyd colofn i gofio William Morgan ar bwys Eglwys Llanelwy, eithr buwyd tros dri chan mlynedd cyn i'r genedl a fendithiwyd â'i Feibl deimlo ar ei chalon i wneuthur hynny. Beth amser yn ol rhoddwyd ffenestr â lliwiau ynddi yn Eglwys Maentwrog er cof am Prys; ond collwyd, am byth, mae'n debig, bob sicrwydd am fan bedd William Salsbri, ac nid oes yn unman faen i'w gofio. Bydd y tri byw fel llenorion heb na maen na ffenestr i'w cofio, ond nid oes ddiolch i'r genedl am hynny.

Ychydig a wyddys hyd yma am Edmwnd Prys, ac o'i hanes bore'n enwedig. Ceir rhai traddodiadau a llawer o ddyfalu; eithr prin ydyw ffeithiau ynglŷn â'i hanes. Y