mae gennym doreth o'i waith fel bardd, a llawer o gyfeiriadau ato ym mhrydyddiaeth ei gyfoeswyr, ond tybiaeth ydyw swm mwyaf popeth arall. Tybir ei eni yn Nhyddyn. Du, ym mhlwyf Maentwrog, a seilir y dybiaeth ar hen lawysgrif Saesneg yn Llyfrgell Tanybwlch. Y cofnod ynglŷn ag ef yn y llawysgrif ydyw : "Yr Archddiacon oedd fab y Tyddyn Du, Maentwrog, ac a anwyd yn y flwyddyn 1541. Efe a aeth i fyw i Gerddi Bluog, ym Mhlwyf Llanfair, ar briodas ei ail fab Morgan Prys â Margaret Williams, etifeddes y Gerddi Bluog. Fe'i claddwyd ym Maentwrog, heb unrhyw goflech, yn y flwyddyn 1624.".[1] Ni wyddys am ddim sicr ynglŷn â lle ei eni. Ymranna'r sawl a ysgrifennodd am Prys o blaid Gerddi Bluog a Tyddyn Du. Y mae traddodiad cryf ym mhlwyf Maentwrog ei eni yno, ac oherwydd hyn yn bennaf haws gennyf ogwyddo at y Tyddyn nag at y Gerddi. Ni ellir dibynnu dim ar dystiolaeth y cofnod yn ysgriflyfr Tanybwlch, oblegid y mae'n anghywir am flwyddyn ei eni a'i farw, fel y profir mewn lle arall.
Nid oes gennym sicrwydd am na dydd na mis ei eni, ac ni fu neb, cyn belled ag y gwn i, yn ceisio'u dyfalu, eithr credid yn sicr hyd o fewn ychydig fisoedd yn ôl y bu hynny yn 1541. Tybia Syr John Morris-Jones yntau nad tebig ei eni fawr cyn 1541, nac odid ddim ar ol hynny.[2] Seilia ef ei dybiaeth ar eiriau a geir uwchben llinellau Lladin o eiddo Prys yn ateb i ragymadrodd y Doctor John Davies yn ei Ramadeg a gyhoeddwyd yn 1621. Dyma'r geiriau :—" Atebiad Edmwnd Prys, henwr pedwar ugain, Archiagon Meirionydd, yn cymeradwyo'r gwaith." Dichon mai geiriau awdur y Gramadeg ydynt, ac nid geiriau Prys. Ymddengys yn awr o'r diwedd y rhoddir pen ar bob dyfalu ynglŷn â blwyddyn ei eni gan ddarganfyddiad o atosodiad Prys yng Nghofrestr Eglwys Gadeiriol Ely adeg ei arholiad am urdd offeiriad, Ebrill 15, 1568. Yr