Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Edmwnd Prys y pryd hwnnw yn bedair ar hugain oed. Felly, ganed ef yn 1544, ac nid yn 1541.[1]

Tybir yn gyffredin mai Sion Prys oedd tad yr Archddiacon, a'i fod yn un o uchelwyr ardal Maentwrog, â chryn dipyn o dda'r byd wrth ei gefn. Sonia Asaph am ryw hen lawysgrif dylasid ei henwi—sy'n olrhain yr achau," Edmwnd Prys, M.A. ab Sion Prys ab Gruffydd ab Rhys ab Einion Fychan," ac i fyny trwy ab ar ol ab, oni chyrhaeddir "Aedd Mawr, brenin cyntaf ynys Prydain." Gresyn nad âi'r hen ysgrif yn uwch, a chyrraedd cychwyn pob ab. Efallai y gwyddai William Cynwal am yr hen lawysgrif hon, oblegid dywed yn un o'i gywyddau ateb at Prys:

Dy fonedd, caru difeinwyr,
A'th ach gawn, aeth uwch gwyr:
Arch iawn enw erchwyn ynys,
Sy'n parhau o Sion ab Rhys;
Esgob had i wisgo pan
Yn fych ŵyr Einion Fychan.

Cafodd Prys addysg fore dda, oblegid aeth i goleg St. Ioan, Caergrawnt, rywbryd; ni wyddys pa bryd, eithr dengys Cofrestr y Coleg ei dderbyn i radd B.A. yn 1567, ac i radd M.A. yn 1571.[2] Ordeiniwyd ef yn offeiriad Ebrill 16, 1568.

Nid oes sicrwydd ymha le y bu, na pha waith a wnai, o 1568 hyd 1573. Yn ol Coflyfr Esgob Scory o Hereford

  1. "One interesting item in connexion with Edmund Prys's life is the discovery of his apposition at his ordination examination for priest's order at Ely Cathedral on the 15th of April, 1568. . . . On the same folio of the Episcopal Register, and immediately following below, appears the apposition of William Morgan translator of the Bible. At the time Edmund Prys was twenty four years of age, and Wm. Morgan twenty three. So in this way we obtain for the first time the information that the Archdeacon was born in 1544, and Wm. Morgan in 1545."—Y Parch. A. Owen Evans, Archddiacon Bangor, The Book of Archdeacon Ed. Prys. The Welsh Outlook, August, 1923.
  2. Asaph. Edmond Prys, tud. 19.