Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(1569—85) gwnaed Edmwnd Prys yn Rheithor Llwydlo, yn Sir Amwythig, Mawrth 13, 1576. Penodwyd ef yn Archddiacon Meirionydd, Tachwedd 6, 1576.[1] Eithr y mae'n amlwg iddo dreulio peth amser yn Llwydlo, oblegid yn ei gywydd at Sion Tudur i ofyn dau lyfr, sef Y Dwned, hen ramadeg, a Prognostication, llyfr o waith Sion, dywed:

Person wyf, Prys, un ofer
Lwydlo lle anaml clo clêr,
Llediethig yw lle daethym
Llaw Duw a ddel a llwydd ym,
Llwydlo caiff ambell adlais,
A'r seib rhwng Cymro a Sais.
****
Ceisio hen llyfr cyson llwyd,
Ag un newydd o gwniwyd.
****
Llyfr a chlud farcud yw fo,
Cefn llychlyd ca fo'n Llwydlo.

Yng Nghofrestrfeydd Bangor a Llanelwy cofnodir penodi Prys i fywoliaeth Maentwrog, Mawrth 14, 1573, i Archddeoniaeth Meirionydd, Tachwedd 6, 1576, i fywoliaeth Llanenddwyn a Llanddwywe Ebrill 16, 1580, ac yn Ganon St. Asaph, Hydref 8, 1602.[2]

Dysg amryw o'r sawl a gred ei eni yn Nhyddyn Du symud ohono i Gerddi Bluog ar briodas ei fab Morgan ag etifeddes y Gerddi, a thybir iddo fod yno am weddill ei oes. Seilir y dybiaeth hon hithau ar dystiolaeth hen Ysgriflyfr Tanybwlch. Y mae'n ddigon tebig i'r Archddiacon ymweled ar brydiau â Gerddi Bluog, ac aros yno am ysbeidiau hwyrach, eithr nid oes brawf o gwbl iddo gartrefu yno. Eithr o thaerir gartrefu ohono yn y Gerddi ni fu hynny onid am ychydig ar derfyn ei oes, oblegid ysgrifennodd

  1. Y Parch. A. Owen Evans, Archddiacon Bangor, Edmund Prys; The Transactions of the Hon. Society of Cymmrodorion, 1924, p. 129.
  2. Syr J. Morris—Jones, Y Geninen, Gwyl Ddewi, 1923, tud. 58.