Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ddibynnu ar Eiriadur Bywgraffyddol y Parch. J. T. Jones fel awdurdod. Gwn i sicrwydd y derbyn ef lawer o chwedlau disail fel ffeithiau. Y mae ei dystiolaeth ynglŷn â chefnu Dafydd William â'r Methodistiaid yn gorffwys yn hollol ar yr hyn a glywodd hen ŵr o Lanedi gan ei dad.

Diau na cheir bellach sicrwydd am y rheswm iddo newid ei enwad, ac nid yw'r mater yn un i bryderu yn ei gylch. Yr hyn sy'n bwysig ydyw i Dafydd William, drwy bob cyfnewidiad yn ei hanes, gadw ysbrydolrwydd ei feddwl a glendid ei gymeriad. Croesodd trwy'r afon i etifeddiaeth fras yr enwad newydd a goreu'r hen enwad yn ei galon, a pharhaodd i bregethu efengyl gynnes ei emynau hyd derfyn ei oes.

MARWOLAETH YR EMYNYDD.

Bu farw Dafydd William yn hen, ac wedi oes dreiglog, ac helbulus hwyrach, rhoddwyd ef i huno'n dawel hyd ddydd brawd ym mynwent capel Croes-y-Parc. Codwyd maen coffa ar ei fedd yn y blynyddoedd cyntaf, a thorrodd llaw fedrus ar y maen eiriau rhywun na feddai syniad am addaster pethau, "In Memory of David Williams, who died 1st October, 1794, aged 82 years." Wrthuned ceisio cadw'n fyw, mewn iaith estron, goffadwriaeth hen emynydd â'i galon a'i dafod mor Gymreig! Araf ydyw Cymru i sylweddoli ei dyled i'w chymwynaswyr. Euthai cant a deunaw o flynyddoedd heibio cyn i'r genedl symud i anrhydeddu'n gyhoeddus goffadwriaeth yr emynydd, a rhan o'r genedl a symudodd wedyn. Daw culni enwadol i'r golwg cyn amled yn ei berthynas ag emynwyr ag â dim. Dyn cenedl oedd Dafydd William, a chanodd brofiad calon crefyddwyr Cymru, ac nid eiddo calon Bedyddiwr yn unig; eithr y Bedyddwyr, ac ychydig edmygwyr eraill, a fanteisiodd ar gyfle i'w anrhydeddu. Yn 1912, codwyd cofgolofn ysblennydd ar ei fedd. Y mae'n argraffedig ar y golofn y geiriau a ganlyn: