Gorweddle
Y Perganiedydd Dafydd William
Yr hwn a hunodd yn yr Iesu Hydref 1af, 1794
Yn 82 mlwydd oed
Cyfansoddodd emynau lawer, ac yn eu plith
Yr emyn anfarwol
Cyfodwyd y Gofgolofn hon gan
Eglwysi Cymanfa Ddwyreiniol Bedyddwyr Morganwg
ac edmygwyr Cristionogol eraill
Dadorchuddiwyd hi Hydref 21ain, 1910,
Gan y
Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, A.S. Canghellydd y Trysorlys.
Gresyn bod yr hyn a geir ar y golofn am y dadorchuddio yn anghywir. Gall y geiriau beri dyryswch ac ymryson mewn oes neu ddwy eto. Gwell manteisio ar y cyfle hwn i'w cywiro. Darparwyd y golofn i'w dadorchuddio Hydref 21, 1910, gan Mr. D. Lloyd George, ond brysured ydoedd y gwleidydd enwog fel y methai â chael egwyl i ymweled â Chroes-y-Parc. Gohiriwyd y dadorchuddio o fis i fis gan ddisgwyl y llwyddai Mr. George i gyflawni ei addewid, ond wedi aros yn hir ac yn ofer, dadorchuddiwyd y golofn gan Arglwydd Pontypridd, Cymro a Bedyddiwr enwog arall, dydd Iau, Medi 12, 1912. Ymddangosodd adroddiad o waith y dadorchuddiad yn Seren Cymru am Medi 27, 1912.
EI WAITH LLENYDDOL.
Cyhoeddodd Dafydd William lawer o lyfrau, os priodol eu galw felly, oblegid rhyw fân lyfrynnau oeddynt, yn gwerthu am ychydig geiniogau. Y mae ei gynnyrch