Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni llenyddol i gyd, neu o'r hyn lleiaf, y cwbl y gwyddys am dano, mewn emynau, caneuon a marwnadau. chyhoeddodd ddim rhyddiaith ond hynny sydd yn ei brydyddiaeth, ac y mae cryn dipyn yn hwnnw. Y peth cyntaf a gyhoeddwyd ag enw Dafydd William wrtho ydyw y Rhan Gyntaf o'r "Gorfoledd ym Mhebyll Seion, neu ychydig o Destynau o'r Ysgrythur, wedi eu troi mewn ffordd o fawl, ynghyd â Chân o hanes Pechod." Argraffwyd hwn gan Rees Thomas, yn Heol Awst, Caerfyrddin, tua'r flwyddyn 1763, a gwerthwyd ef am dair ceiniog. Ceir ymdrin â'r emynau ymhellach ymlaen.

MARWNADAU.

Ymddengys oddiwrth yr hyn a geir ar wasgar mewn llenyddiaeth Gymraeg bod y tadau'n bur ofalus o goffadwriaeth Cymry enwog, yn bregethwyr poblogaidd ac yn lleygwyr rhinweddol. Gwahaniaethant yn y modd o ofalu oddi wrthym ni yn yr oes hon. Heddyw ysgrifennir Cofiant i gylchgrawn yr enwad; eithr cynt, cofnodai'r tadau ddigwyddiadau pwysig a rhinweddau amlwg eu cyfoeswyr, wedi eu marw, mewn cân faith a manwl. Canodd Williams goffa llu mawr; dyna hefyd arfer Morgan Rhys, Dafydd Jones o Gaio, Thomas William, Bethesda'r Fro, a John Thomas, Rhaeadr Gwy. Canodd Dafydd William yntau lawer marwnad. Y mae ar gael heddyw yn Llyfrgelloedd Cyhoeddus Aberystwyth, Caerdydd, ac Abertawe, o leiaf bedair ar ddeg ohonynt.

Ni cheir ym marwnadau'r hen emynwyr lawer o naws barddoniaeth, ac nid oes raen llenyddol arnynt. Nid amcanent at y pethau hyn. Y mae'r syniadau'n syml a'r iaith yn gwbl werinol ganddynt oll. Nid canu molawd tywysogion ac arglwyddi yr oeddynt, eithr coffa meibion a merched y Deffroad Mawr, y rhai a ddewisodd oddef adfyd mewn brwydrau ysbrydol yn hytrach na mwyniant safle ac esmwythyd. Heblaw cofnodi'n fanwl ddigwyddiadau bywyd y gwrthrych, ei oed a'i farw, a phregethu cryn lawer i'r byw, rhydd rhai o'r marwnadau hyn, yn