Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enwedig eiddo Pantycelyn, syniad mwy neu lai cyflawn am gyflwr moesol y wlad ar y pryd. Diau nad oes i ni heddyw lawer o ddiddordeb yn yr hyn a ddywedir am y personau y cenir am danynt, eithr y mae'r caneuon coffa'n werthfawr, fel eiddo'r hen Ficer, ar gyfrif y ffaith y gellir mesur wrthynt gynnydd moesol gwerin Cymru o ddyddiau'r Diwygiad Methodistaidd hyd heddyw. Ceir syniad am nodwedd y caneuon mewn enghraifft o ychydig benillion" o un o farwnadau Dafydd William:

Duw faddeuo ein holl bechodau,
Cyn y delo yr angau syn,
Oil i'n lampau, a'r haul yn oleu,
Yn yr oriau cyfyng hyn;
Yn yr afon fawr ofnadwy,
Arglwydd, cadw'r enaid cu;
Priodol wisg a gwedd Dy wyneb,
Ar fryniau tragwyddoldeb fry.
* * * * * * * *
Er côf i bawb a fyddo'n gofyn,
Cawn gyfri'r flwyddyn eto'n llawn,
Un mil, saith cant, a thri-ugeinmlwydd,
Pymtheg hylwydd eto cawn,[1]
Oedd oed Iesu, ond ei gasglu,
Ddaw heb fethu gyd i ben,
Duw, ro hedd ac union lwybrau,
Oll i chwithau a minnau, Amen.

CANEUON.

Heblaw y Gân o Hanes Pechod sydd yn y rhan gyntaf o Gorfoledd ym Mhebyll Seion, cyhoeddodd yr awdur ddwy neu dair cân arall. Un ydyw cân ar " Haf sych y flwyddyn. 1785, wedi ei osod allan ar Fesur Cerdd gyd ag Adnodau Ysgrythyrol er cadarnhad o'r Gwirionedd," etc. Yn y gân hon edliwia i'r genedl ei llygredd a'i diystyrwch o al-

  1. Dyma'r flwyddyn y bu farw gwrthrych y gân.