Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wadau Duw trwy Ei weision, ac wedi profi i'w fodlonrwydd ei hun bod yr haf sych yn gosb ddwyfol arni am ei phechod, dywed, a hynny â "chadarnhad o'r Ysgrythyr," mai bywyd ac eiriolaeth yr ychydig ddynion da sy'n cyfrif am na ddifodwyd yr holl genedl, a bod yr annuwiol yn llechu yng nghysgod y dyn santaidd:

Er mwyn yr unig etholedig,
Mae Duw mor ddiddig ac mor fwyn,
Pan elo rhain o'i flaen mewn gweddi,
O'r nef fe wrendy ar eu cwyn;
Tra fu Lot o fewn i Sodom,
Hi ga'dd gan Frenin Seion barch;
Ni ddaeth diluw, ni ddaeth gwasgfa,
Nes i Noah fynd i'r arch.

Hwy yw'r gwych bilerau cryfion,
Auraidd hoelion Seion lân,
Pan ddelo rhain i gyd i'r unman,
Fe aiff y cyfan fyd ar dân;
Ofer galw y pryd hwnnw,
Rhowch o'ch olew ini beth,
Fe ddarfyddodd ein canhwyllau,
Aeth ein lampau i gyd ar feth.

Ni chyhoeddodd yr emynydd ond un llyfr o ganeuon, sef Diferion o Ffynnon Iachawdwriaeth. Argraffwyd ef gan Rhys Thomas, ym Mhontfaen, yn 1772, ac eilwaith gan J. Ross, Caerfyrddin, yn 1777. Ar yr wyneb—ddalen ceir y pennill:

Dos, fy llyfr bach, yn llawen,
Heda yn ebrwydd fel colomen,
Galw bawb i'r Ffynnon hyfryd,
Lle mae cael tragwyddol iechyd.

Y mae'r awdur yn y Diferion yn ffyddlonach i'w destun nag mewn llawer o'i emynau. Dechreua â chân i Grist fel ffynnon holl fendithion y Saint, ac yna cân i