Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Rinwedd y Ffynnon," "Y Wir Ffydd," "Newyddion Da," Gwacter y Byd," a llawer eraill. Ceir digon o brawf yn y llyfr hwn fod Dafydd William yn Galfin mawr o ran credo, a dichon mai Calfiniaeth y caneuon, ynghyda phrinder asbri farddonol, yw'r rheswm nad ydynt i'w cael heddyw ond mewn ychydig lyfrgelloedd. Profiad sy'n byw ac nid opiniwn; synnwyr calon sy'n anfarwol, ac nid synnwyr pen. Gwybodaeth pen Dafydd William sydd yn ei ganeuon, ac y mae oerni'r wybodaeth wedi lladd y mwyafrif ohonynt. Gwybodaeth ei galon sydd yn ei emynau, ac y mae gwres y wybodaeth wedi anfarwoli amryw ohonynt hwythau. Crefyddol ydyw'r caneuon i gyd, ac y mae rhai ohonynt yn dda, a'r gweddill yn gywir eu hamcan. Dyma dri pennill hoyw o ymgom rhwng "Silo a Seion":

Silo
O, Seion fwyn, gariadus,
Pam wyt ti mor wylofus?
O, cyfod, bydd gysurus,
Na fydd gwynfanus clyw!
Myfi yw'th Briod hoyw,
Un glywa'th lais yn galw;
Gwir Silo yw fy enw,
'Rwy'n gwneud y marw'n fyw.

Seion:
Y finneu yn Seion ddinerth,
A'm taith trwy ddyffryn trafferth,
Yn euog o farwoleth,
Heb obaith dan fy mron,
Cyfiawnder sy'n fy ngofyn,
Am ddyled mae'n fy nilyn,
A finnau heb feddu hatling
I dalu'r gofyn hwn.

Silo:
Mi'th gerais di mor gynnar,
Cyn creu nef na daear,
Fod i mi'n briod hawddgar
A chydmar yn y byd.