Ni thorr y clwm a'r undeb |
EMYNAU'R AWDUR.
Y mae peth gwerth a swyn yng nghaneuon Dafydd William, eithr ei emynau a rydd le amlwg iddo ymhlith cymwynaswyr mawr ei genedl. Ei brif lyfr emynau ydyw Gorfoledd ym Mhebyll Seion, a gyhoeddwyd yn bedair rhan. Nid oes ddyddiad wrth y rhan gyntaf, ond bernir ei hargraffu yn 1763 neu 1764. Gan fod yn anodd taro ar lyfrau prin yr hen emynwyr ond yn y prif lyfrgelloedd rhoddir yma wyneb—ddalen y "Gorfoledd," a rhoddir eiddo'r ail ran oherwydd y cyfeiriad sydd ynddi at oedran yr emynydd:
Gorfoledd
Ym Mhebyll Seion, Yr Ail Ran,
neu ychydig o Hymnau Efengylaidd,
Wedi eu cymmeryd allan o amryw
Destynau o'r Ysgrythyrau Sanctaidd, Wedi eu hamcanu
I'r diben o ddiddanu'r gwan ei Feddwl, y sydd ar ei
daith tua'r Jerusalem Newydd, gwir Noddfa'r Gwar-
edigion.
Psalm cxlix. 2.
Llawenhaed Israel yn yr hwn a'i gwnaeth, gorfoledded
Meibion Seion yn eu Brenhin, Esay xxiv. 10. 2 Sam.
xxiv. Dat. v. 9.
O, fy enaid, teithia yn gywir,
Llwybr cul yr hen Ryfelwyr,
Di gai seinio Cân yn uchel
O fawl i'r Oen ar ddiwedd Rhyfel.