A gyfansoddwyd
gan Dafydd William, gynt o Landeilo Tal-y-bont,
yn Sir Forganwg, yn y 56 o oedran a thri mis.
Caerfyrddin.
Argraffwyd tros yr Awdwr gan J. Ross, yn Heol Prior,
ac ar werth gan Thomas Maurice, 1777
Pris dwy geiniog.
Cyhoeddwyd y pedair Rhan yn un llyfr yn 1782, a chaed amryw argraffiadau ohono. Anodd dychmygu beth a gymhellodd yr emynydd i gyfieithu nifer o'i Emynau i'r Saesneg. Dichon mai eu poblogrwydd ymhlith y Cymry. Cyhoeddwyd yr ail ran Gorfoledd yn Saesneg yn 1779, tan yr enw "Joy in the Tents of Zion," etc. Gwastraff ar amser ydoedd y cyfieithiad hwn. Nid oes ynddo ddim teilyngdod, ac ni eilw am sylw pellach.
NODWEDDION YR EMYNAU.
Y mae cynnwys yr emynau yn gyson ag enw'r llyfr. Eu prif nodwedd yw Gorfoledd. Y mae Dafydd William yn canu'n wrol a hwyliog. O gredu'r traddodiadau am ei helbulon teuluaidd, rhaid credu hefyd fod iddo, fel Paul, ddawn i orfoleddu mewn gorthrymderau. Ei gynefin fel emynydd ydoedd glesni'r nef, ac awyr iach pen y mynydd. Disgyn weithiau i'r dyffryn tan y cwmwl, a gruddfan beth mewn cystudd ysbryd. Eithr buan yr esgyn, ac wrth esgyn mâg obaith a nerth, a chyn hir try'r gŵyn yn gân felys, a cheir buddugoliaeth yn ei nodau. Os ceir ef yn gruddfan—ganu ar fin cors y morfa llaith, gofala orffen y gân ar ben y mynydd, a bloeddio
Haleliwia, Haleliwia,
Craig fy iachawdwriaeth yw.
Sonia lawer am yr "Awel," a myn hi'n "Awel gref i godi'r ysbryd egwan o'r ddaear hyd y nef." Cawn ef yn aml yn yr " Afon," ac yn y " Dyfroedd mawr a'r tonnau,"