Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond y mae Rhywun bob amser yn dal ei ben, a chroesa'n ddiogel i'r "lan brydferth draw."

Y mae rhai o emynau goreu Dafydd William heb fod yng nghasgliadau'r holl enwadau, ac ambell emyn gwir dda heb fod mewn unrhyw gasgliad enwadol. Dyma un da nas ceir ond yn Emyniadur yr Eglwys, ac ni cheir y pennill cyntaf yn hwnnw:

Dacw angeu wedi ei faeddu,
Dacw'r ddraig a'i phen yn friw,
Dacw'r gelyn wedi ei lethu,
Dacw'r faner hardd ei lliw;
Dacw'r frwydr wedi ei hennill,
Er cadernid grym y tân,
Gan fy Iesu, 'Mrawd anwyla,
Haleliwia, f'enaid cân.

Dyma gariad heb ddim gwaelod,
Dyma gariad heb ddim trai,
Dyma gariad digyffelyb,
Dyma gariad sy'n parhau;
Dyma gariad a fy nghynnal
Tra bo ynof anadl chwyth,
Dyma gariad wnaeth i'm henaid
Ddechreu cân na dderfydd byth.

Dyma eto emyn gweddol dlws i'r "Awel." Ceir ef yn Emynau y Cysegr, wedi ei wella trwy leihau nifer y gair "hyfryd," a'i waethygu trwy newid y llinell olaf. Ni cheir ef mewn un casgliad enwadol a arferir heddyw:

Awel gref o fynydd Seion,
Annwyl Iesu, sydd arna'i chwant,
Awel gref wna imi ganu
Ar nefol dannau gydâ'r plant;
Awel hyfryd ddaw a'm henaid
O'm caethiwed oll yn rhydd,
Awel hyfryd wna dawelwch,
A'r dywyll nos yn hyfryd ddydd.