Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Awel gref o dir y bywyd
Y sydd eisiau arnaf fi,
Goleu'r heulwen ar fy mhabell,
Awel hyfryd gyda hi;
Awel hyfryd ac addewid,
Awel fawr o Ganaan wlad, A
wel hyfryd ar ol awel,
A'r awel ola i dŷ fy Nhad.

Y mae'n anodd esbonio hwyl galonnog emynau Dafydd William, Yn ol traddodiad ni fu un o'r hen emynwyr mewn cymaint o helbulon ag ef. Yr oedd ei fywyd yn llawn brwydro,—brwydro ar yr aelwyd gartref, brwydro yn ei amgylchiadau bydol, a brwydro â gelynion ysbrydol lawer. Ei brif elyn ydoedd Anghrediniaeth. Ymladdai'n galed â hwn, ac ymladdai'n aml; ac er ei faeddu'n arw lawer tro, teimlai'n gryf ac hyderus ymhob brwydr. Gwyddai hefyd yn dda ymha le i geisio adgyfnerthiad yn ei frwydrau:

Anghrediniaeth, gâd fi'n llonydd,
Onide mi godaf lef, etc.


O ynfyd anghrediniaeth, rhoist i mi lawer briw,
Taw sôn, gad lonydd imi, mae'r Iesu eto'n fyw;
Fe agor byrth dy garchar, fe ddaw a'r caeth yn rhydd
Fe wna i'r cloff i rodio a llamu fel yr hydd.

Lleferaist anghrediniaeth, do, wrthyf, lawer gwaith,
Mai marw fyddai niwedd, cyn mynd i ben y daith;
Fe ddywed ffydd, er gwaned, y câf feddiannu'r wlad;
Dy waethaf, anghrediniaeth, fe'm golchwyd yn y gwaed.


Gŵyr yr emynydd beth yw prudd—der, a rhydd aml ddolef yn ei emyn. Eithr yn ddieithriad, terfyna'r emyn. mewn llawenydd; ac yn orfoleddus, heria'i elyn,—" Dy waethaf, anghrediniaeth," etc.