Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"YN Y DYFROEDD MAWR A'R TONNAU."

Dyma brif emyn Dafydd William, a dichon nad oes emyn perffeithiach mewn unrhyw iaith. Y mae mor syml a naturiol, ac addas i brofiad Cristion yng "ngwlad y cystudd mawr." Berffeithied ydyw ei feddyliau, ei deimlad, a'i iaith, nes mynegi ohono brofiad pob dyn da, boed ef ddiwylliedig neu anllythrennog. Y mae pawb yn ei wybod. Myn le ymhob llyfr emynau Cymraeg, a chenir ef gan Gymry crefyddol trwy'r byd cyfan. Clywais ei ganu gan blant yr Ysgol Sul pan yn dychwelyd o'u pleserdaith flynyddol. Fore haf ar y môr, fil o filltiroedd o dir, gwelais bedwar Cymro ar fwrdd y Mauretania yn dychwelyd o Gymru, a'u hwynebau ar gartref yn y gorllewin pell, mewn afiaith wrth ei ganu. Clywais hefyd yr hen eiriau "Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau" yn yr un hen seiniau lleddf yn esgyn i Foel Cadwgan o galon torf ddu ar lan bedd glöwr ieuanc ym mynwent Abergorci. Rhydd yr hen emyn fynegiant i brofiad pob cynhulliad Cymreig galarus ymhob oes hyd ddiwedd amser.

Y mae pawb a ysgrifennodd am Dafydd William yn sôn am y traddodiad ynglŷn ag achlysur cyfansoddi'r emyn hwn. Y mae'n draddodiad diddorol iawn. Fel hyn y bu Wedi Saboth o bregethu i'r Methodistiaid mewn ardal bell, daeth Dafydd adre'n hwyr, trwy wynt a glaw mawr; ond erbyn croesi'r morfa, a dyfod hyd Llandeilo Fach yn wlyb a lluddedig, cafodd ddrws ei dŷ yn gloedig, a'i wraig yn y gwely, ac er curo a churo, gwrthodai ei gymhares anhydrin drugarhau wrtho. Wedi aros yn hir, trodd am loches i lety'r ych ychydig bellter oddi wrth y tŷ. Curai'r glaw yn drwm o hyd, a chyrhaeddai sŵn berw gwyllt afon Llwchwr hyd ato, a chan sŵn dyfroedd lawer arweiniwyd myfyrdod yr hen brydydd digalon at afon angau. Teimlai fod gan ei enaid Briod a safai'n ffyddlon hyd y diwedd, ac a roddai fodd iddo ganu ym malchter Iorddonen, a than ysbrydiaeth y teimlad hwn canodd[1]

  1. Dylid cofio mai traddodiad yw'r eglurhad hwn, ac na wyddys am unrhyw sail iddo.