Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau," etc.

Y trydydd pennill o'r pedwar sydd gan yr awdur tan y geiriau Llais ffydd y credadyn mewn gweddi," seiliedig ar Salm lv. 14, yw'r emyn. Rhoddir ef yma yn ei ffurf wreiddiol:

Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau
Nid oes neb a ddal fy mhen,
Ond fy anwyl Briod Iesu
A fu farw ar y pren;
Cyfaill yw yn afon angeu
A ddal fy mhen i uwch y don;
Golwg arno wna i mi ganu
Yn yr afon ddwfwn hon.


Ymhlith emynau mwyaf poblogaidd yr emynydd y mae'r rhain:

Anghrediniaeth, gâd fi'n llonydd, etc.
Hosanna, haleliwia, fe aned brawd i mi, etc.
Dyma Gariad heb ddim gwaelod, etc.
O, Arglwydd, dyro awel, etc.
n y dyfroedd mawr a'r tonnau, etc.
O Dduw, rho i'm dy ysbryd, etc.
O f'enaid paid ag ofni, etc.
O'r nef mi glywais newydd, etc.


Nid oedd Dafydd William yn fardd mawr nac yn llenor gwych. Athrylith calon ac nid eiddo pen a geir yn ei emynau. Cyfoeth amrywiol ei brofiad, ac nid grymuster awen a'i hanfarwolodd. Y mae'n wir bod llawer o'i emynau'n gyffredin, ac amryw'n wael, a gellir dywedyd hynny am yr holl brif emynwyr. Andwyir ambell emyn