Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o eiddo Dafydd gan gymysgedd a diffyg chwaeth. Y mae hefyd yn rhy dueddol i ailadrodd, ac weithiau rhed i eithafion. Eithr ni cheir y rhain i'n blino; ei oreuon sy'n teithio i lawr o oes i oes, ac y maent hwy yn ysblennydd ac anfarwol.

Fel emynydd, saif Dafydd William, Llandeilo Fach, ochr yn ochr â Dafydd Jones o Gaio, heb neb ond Morgan Rhys rhyngddo â Phantycelyn.