Ysgwirwalch mydr ysgwariai, |
Y mae'n eglur oddiwrth brydyddiaeth ei gyfoeswyr yr ystyrid Edmwnd Prys yn ysgolhaig mawr a phrydydd cryf, ac yn ŵr hoff o frwydro. Eithr o'i farnu yn ei gywyddau'n unig, credaf na roddid mwy o sylw iddo yn yr oes hon nag a roddir i William Cynwal. Nid oes yn holl waith Prys yn y mesurau caethion ail i ddim o farddoniaeth, ac ni fyddai'n gamp yn y byd i Gynwal ragori arno fel bardd, fel y dysg Goronwy Owen a Llywelyn. Ddu o Fôn, y gwnai.
Y mae llawer wedi ei ysgrifennu'n ddiweddar am y ddadl fawr a fu rhwng y ddeufardd, a dysg llenorion adnabyddus bod trafod ar ddau fater ynddi, sef, y diwylliant cynhenid Cymreig, a diwylliant diweddar yr ysgolion. Safai Cynwal tros y naill, safai Prys tros y llall. Dichon gwahaniaethu mewn barn oddiwrth y meistri mewn llenyddiaeth ymddangos yn rhyfyg, ond ar ol darllen yr holl ddadl, fy marn onest ydyw nad oedd dim mewn golwg gan y ddau fardd ond bygylu a difrïo'i gilydd, yn ol hen arfer y beirdd Detholai'r naill o'r crug nesaf