"Gŵr wrth gerdd" oedd William Cynwal. Ei athro oedd Gruffydd Hiraethog, a chafodd urdd pencerdd yn Eisteddfod Caerwys yn 1568. Felly, yr oedd ganddo hawl i ennill ei fywoliaeth fel bardd pes mynnai. Nid oedd yn ddarostyngiad o gwbl i uchelwr fel Prys ymddadleu ag amaethwr bach oedd hefyd yn bencerdd, ac yn sicr ni ddarostyngai'i hun wrth ymryson â gôf, oblegid yr oedd gofaniaeth yn un o'r galwedigaethau anrhydeddusaf,[1] a cheid yn llys y brenin neu'r tywysog gadair i'r gôf gyfartal mewn urddas â chadair pencerdd.
Dechreu'r Ymryson oedd danfon o Edmwnd Prys tros Rys Wyn gywydd, yn gofyn am ryw fwa oedd gan Gynwal,—bwa yw, ac nid bwa dur, fel y dywed yr haneswyr yn gyffredin:
Dodwch, a daëd ydyw
Bwa i Rys o bur Yw.
Atebodd Cynwal â chywydd bonheddig iawn yn moli Prys, eithr gwrthodai'r bwa am mai rhodd oedd:
Hefyd ennyd nid onest,
Rhoi rhodd o rodd, gormod gwest.
Ond y drwg oedd fod Prys neu Rhys Wyn wedi cael gair Cynwal y ceid y bwa, oblegid yn ol rheolau'r beirdd, ni ellid gwneuthur cywydd gofyn heb hynny. Ffromodd Prys gryn dipyn, ac atebodd â chywydd, a bu saith gywydd bob un rhyngddynt. Poethodd Prys a chanodd dri cywydd, ac atebodd Cynwal â thri. Yna caed naw bob un. Wedyn aeth Prys ati i ganu tri naw, ond cyn gorffen yr unfed ar bymtheg daeth y newydd farw o Gynwal. Trodd Prys ar unwaith i ganu marwnad i'w hen wrthwynebydd a'i ganmol â chymaint o fedr ac mor eithafol ag y bychanai ef yn y Cywyddau Ymryson:
Na atto Duw fynd Tad Awen, |
- ↑ Gwynn Jones, Bardism and Romance, tud. 17.