Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

casglu oddiwrth y Cywyddau Ymryson mai gôf ydoedd. Yn ei seithfed cywydd, dywed Cynwal:

Ymryson drwy ddiglloni,
Rhad mawr yr wyd â mi;
Fal ymryson son heb sail,
Gan nwyf â go'n ei efail.

Ac yn ei ateb iddo, gofyn Prys:

I ble ffois drygfoes dreig-fin,
Y gofan trwch, rhag ofn trin;
I'th yrais ni syflais sail,
O'th gof ag o'th waith gefail;
Er dy fod yn arw dy fin,
Lle daeth fwg llid o'th fegin;
Nid wyd abl wrth barablu,
I gydio iaith â'r gô du.

Efallai ei fod yn ôf ac yn amaethwr. Ceir yn y Cywyddau rai cyfeiriadau sydd yn ffafr y dybiaeth ei fod yn amaethu. Dywed Prys:

Daethum pam na chyd weithi,
Damwain daith i'th domen di.

Ac etyb Cynwal:

Doit meddwl lueddwl dig,
I'm tomen ŵr ffrom tymig;
Cawsed garw hoyw—fyd groesaw,
Pe doethid trafaelid draw:
O medrid llanwyd llwyth,
Godi'r tail gyda'r tylwyth;
Y rhain oedd rhin a wyddir,
Yn bwrw'r tail obry i'r tir;
Ond na weddai lliwia'r llen,
Drud amharch fynd i'r domen.[1]


  1. Asaph, Barddoniaeth Edmond Prys, tud. 28.