Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu brwydro hefyd rhwng yr Archddiacon â Thomas. Prys, o Blas Iolyn. Tybir eni Thomas Prys tua 1560, a'i farw yn 1634[1] . Gŵr boneddig ydoedd, ac yn filwr. Bu'n gapten ar ei long ei hun, ac yn ymladd â'r Yspaenwyr, ac yn 1588 yr oedd yn swyddog ym myddin Lloegr. Canodd "Gywydd Duchan i Edmwnd Prys," yn pleidio William Cynwal, ac atebodd yr hen Archddiacon ef â'i fedr a'i chwerwder arferol.

Eithr brwydr fawr Edmwnd Prys, a'r un hynotaf yn hanes llenyddiaeth Cymru, oedd yr un a fu rhyngddo â William Cynwal. Prin iawn ydyw hanes Cynwal. Tybir llawer ynglŷn ag ef, eithr nid oes fawr o ddim sicr ar gael. Deuir yn lled agos i'r gwir ar rai pwyntiau o ddilyn y Cywyddau Ymryson. Gŵr o Ddôl Gynwal ydoedd, ac, yn ol Prys, o ymyl Ysbyty Ifan, oblegid yn ei gywydd cyntaf geilw ef yn "Tafod Ysbyty Ifan." Yr oedd yn ddisgynnydd o'r Palcysiaid, hen deulu enwog yn Ardudwy.

Einion o'r blaen unair blaid,
Epil cyson Palcysiaid.[2]

Tybir ei eni tua 1530; a fe eilw'i hun yn hen ŵr pan oedd yn ymryson â Prys:

Prydyddwr parod oeddwn,
Pennod hardd yn y pwynt hwn;
Os credir, dysgu'r ydwyf,
Hyn erioed a hen ŵr wyf.

Nid oes dim sicr ychwaith ynglŷn â blwyddyn ei farw, eithr gwyddys ei fod yn fyw yn 1586, oblegid y mae mewn llawysgrif yn yr Amgueddfa Brydeinig farwnad a ganodd yn y flwyddyn honno i Sion Wyn.[3]

Dywed yr Athro T. Gwynn Jones mai amaethwr bychan oedd Cynwal, a'i fod yn byw ym Mhenmachno.[4] Ond gellir

  1. W. J. Gruffydd. Llenyddiaeth Cymru, tud. 115, 116.
  2. Asaph, Barddoniaeth Edmund Prys, tud. 13.
  3. Asaph, tud. 52.
  4. T. Gwynn Jones. Y Llenor. Cyf. II. Rhif 4, tud. 247.