Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chywydd ateb Prys iddo.[1] Y mae'n eglur oddiwrth y rhain y bu'r Ymryson yn un chwerw. Ebe Sion Phylip:

Pam i cair ungair angerdd
Anghord rhwng saeri coed cerdd,
Ysgydwch yn wasgedig
Ddwylo a dawdd ol y dig. . .
Rhowch o fefl a mawrhewch fawl
Heibio'r dychan bradychawl.

Eithr yn gyson â'i dymer ystyfnig a'i ysbryd meistrolgar, ni fyn Prys ildio i neb:

Dyn aurfawl wyd yn erfyn,
Nawdd i Huw anhawdd yw hyn;
Ba newdd i'r neb ni wyddai
Naddfa bur ne addef bai;
Mae'n ddau fai bob bai eb wir,
O bydd na chydnabyddir.

Amaethwr oedd Sion Phylip, a bu fyw am ran o'i oes, ac efallai am y rhan fwyaf ohoni, ym Mochres, Ardudwy. Yn 1620, boddodd pan yn ceisio croesi i'w gartref o Bwllheli, a chladdwyd ef ym mynwent plwyf Llandannwg. Yn wahanol i Edmwnd Prys, yr oedd Sion Phylip yn Bencerdd, wedi ei raddio yn Eisteddfod Caerwys yn 1568. Yr oedd hefyd yn fardd mawr, ac yn gymaint meistr ar yr hen fesurau a neb a fu o'i flaen. Tybir ei fod yn Fardd Teulu Corsygedol. Rhyw ddagr gwerthfawr a ddaethai i Brys o Edinburgh oedd achlysur yr Ymryson a fu rhwng y ddau fardd. Sion Prys yn gwybod gwerth y dagr yng ngolwg ei berchennog a ganodd gywydd i'w ofyn i Rhys Wyn o Drawsfynydd. Anfonwyd y dagr ar unwaith. Eithr cyn hir gwybu Prys nad awdurdodwyd Sion gan Rhys i ganu ei gywydd gofyn, ac yna bu dadleu a bygylu mawr rhwng y ddau.

  1. Asaph, Barddoniaeth Edmund Prys, tud. 105—107.