Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Taer yw, a hawdd y tyr rhai
O groen gwirion gryn garai.

Gwybu gam y werin, ac hwyrach y teimlai beth trosti, ac y cynorthwyai hi. Eithr nid oes yn ei gywyddau brofion cedyrn o hynny—dim, ac eithrio ambell ergyd a ddaw o raid swydd yr offeiriad. Rhoddai bris mawr ar addysg yr ysgolion, a thueddai at fygylu'r sawl na fendithiwyd â'i freintiau ef:

Profais wau per wefus wawd,
Prif ieithoedd prawf o wythawd.

Ac, ebe William Cynwal am dano:

Dywedaist fod dy ddysg fydol,
Arna'n ffawd i'm bwrw'n ffol.

Tydi drwy sgorn a chornio,
A fyn fai i'r fan ni bo.

Gan nad oedd Prys yn "ŵr wrth gerdd "nid oedd raid. arno barchu deddfau'r beirdd graddedig, a chanai fel y mynnai ac ar y testunau a fynnai.

Y mae llawer o amrywiaeth yn nhestunau canu Edmwnd Prys, megis "Cywydd i'r Byd," "Y Nef," "Duw" "Cydsain Cerddorion yng Nglyn Helicon," "Cywydd Mwythus i Ferch," " Ymddiddan rhwng Pechadur a'i Gydwybod,' "Ein Prynedigaeth Ni," "Cywydd i ofyn Tobaco," "Y Llwynog," "Y Bêl Droed." Eithr y mae swm mwyaf ei brydyddiaeth mewn Cywyddau Ymryson. Ni wyddys nifer ei Ymrysonau, ond gwyddys am bedair, sef y rhai a fu rhyngddo â Huw Machno, Sion Phylip, Tomas Prys, a William Cynwal. Ni welais ddim o'r Ymryson a fu rhyngddo â Hugh Machno; efallai ei fod mewn llawysgrif yn rhywle. Eithr y mae mewn argraff "Gywydd Cymod rhwng Mr. Prys a Hugh Machno," o waith Sion Phylip, a