Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dangosir mewn lle arall fod Prys yn ddyledus i Forgan am gymorth ynglŷn â'r Salmau Cân. Efallai fod y Doctor Thomas Llewelyn yn gywir pan ddywed i Prys a'r ddau eraill" ddarllen a chwilio y cyfieithiad, gan ei olygu a'i ddiwygio trosto."[1]

Gwaith goreu a buddiolaf Edmwnd Prys yw'r Salmau Cân, eithr y mae gennym hefyd swm da o'i waith yn y mesurau caethion, ac er mai'r Salmau Cân a bair i ni ei gofio a'i barchu, yn ei gywyddau yn unig, ac yn ei gywyddau ymryson yn enwedig, y ceir syniad gweddol gywir am dano fel dyn; yno y gwelir ei dymherau naturiol a'i nodweddion moesol. Wrth fwrw barn ar Prys yng ngoleuni'i waith, dylid cofio mai uchelwr ydoedd, yn offeiriad, ysgolhaig, a bardd cryf yn canu ar ei fwyd ei hun." Fel uchelwr yr oedd o linach ymladdwyr, ac ymryson yn ei waed a'r meistr yn ei dymer. Ei swydd fel offeiriad, a hynny o ras oedd ganddo, ac nid natur, a'i cadwodd rhag bod yn ymladdwr mewn mwy nag un ystyr. Dywed William Cynwal ei fod yn gawr o ran maint:

Amrant ail Merddin Emrys.
Wyt, a maint praff, Edmwnt Prys;
Os mawr oedd, Swmer addysg,
Dy gorff, mae'n llawn dawn a dysg ;
Ail Derfel hy, awdurfawr,
Edmwnd, corff hyd a maint lawr.

Ymladdwr wrth natur, fel ei dadau, ydoedd, a galwai'n aml ar rywun neu'i gilydd i ymladd:

Dyr'd i faes, dewr ydwyf fi.

Yr oedd yn sylwedydd lled graff, a dengys ei brydyddiaeth y rhagorai ar y mwyafrif o feirdd ei oes o ran gallu i adnabod y natur ddynol. Gwyddai hefyd am drais uchelwyr a chyni'r tlawd:

Rhaid i'r gwan ddal y ganwyll
I'r dewr i wneuthur ei dwyll.

  1. Llewelyn's British Versions, p. 23.