â 1616. Wrth gwrs, ni phrawf y creiriau—hen gloc a gwely Edmwnd Prys a welodd Glasynys ac eraill yn Gerddi Bluog, i'r Archddiacon gartrefu yno o gwbl.
Ni wyddys na dydd na mis ei farw,—dim ond y flwyddyn. Y dybiaeth gyffredin ydoedd iddo farw yn 1624. Efallai mai Ysgriflyfr Tanybwlch a hudodd yr haneswyr i'r gwall hwn hefyd. Y cyntaf i mi wybod am dano yn dywedyd yn bendant mai 1623 sydd yn gywir yw'r Athro W. J. Gruffydd.[1] Eithr ni rydd yntau brawf. Yn awr, rhoddir pen ar bob amheuaeth gan gofnodion swyddogol yng Nghofrestrfeydd Bangor a Llanelwy. Yno ceir i Robert White gael ei benodi i Archddeoniaeth Meirionydd, Medi 29, 1623, ar farwolaeth Edmwnd Prys.[2] Gwyddys i sicrwydd bellach farw o Prys cyn diwedd Medi 1623, ac nid yn 1624.
Gwnaeth yr haneswyr lawer o dro i gilydd o'r cymorth a roddodd Edmwnd Prys i Doctor William Morgan i gyfieithu'r Beibl. Nid oes ddadl am gymhwyster Prys i'r gwaith, na neb yn ameu roddi ohono gymorth. Dywed yr Esgob yn ei lythyr, sy'n cyflwyno'r Cyfieithiad, ar ol enwi y rhai uwchlaw eraill a ymdrechasant i hyrwyddo y gwaith, . . . yr un modd rhoddodd y rhai canlynol gynorthwy na ddylid ei ddibrisio,—D. Powell, Doctor Diwinyddiaeth Sanctaidd, E. Prys, Archddiacon Meirionnydd, Rd. Vaughan, Llywydd Ysbyty St. Ioan, yr hon sydd yn Lutterworth." Y mae'r ddadl ynglŷn â natur a maint y cymorth a roddwyd. Tybid yn gyffredin unwaith i Prys gyfieithu'r Salmau tros Morgan, eithr ni wyddys am unrhyw sail dda i'r dybiaeth. O gymharu Salmau'r Beibl Cymraeg â'r Salmau Cân, y mae'n haws credu na pheidio na fu a fynno Prys o gwbl â chyfieithu Salmau Doctor Morgan. Yr oedd y ddau yn offeiriaid, yn hen gyfeillion, yn ysgolheigion gwych, ac yn cynorthwyo'i gilydd. Cydnebydd Morgan gynorthwy Prys iddo,