Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y SALMAU CÂN.

Yr oedd Edmwnd Prys yn sylwedydd craff, a chanddo fedr anarferol i osod mewn llinell neu gwpled ddoethineb a phrofiad cenedl gyfan, a dyna'r cwbl a wnaed ganddo yn y dyfyniadau uchod. Y mae'n ddiameu fod iddo ragoriaethau lawer fel offeiriad, ysgolhaig, a bardd, ond nid y rheini a bair i'r wlad ei gofio ar ben tri chan mlwydd ei farw, eithr ei gymwynas fawr ar derfyn ei oes o gyflwyno iddi y Salmau Cân.

Hyd 1547 ni chenid yn Eglwysi Lloegr a Chymru ddim ond Salmau, a hynny yn y Lladin, a'r Côr yn unig a ganai. Ni fu ynddynt erioed ganu cynulleidfaol. Eithr pan aeth Elizabeth i'r orsedd, dychwelodd amryw o'r sawl a ddihangodd neu a alltudiwyd i'r Cyfandir yn ystod teyrnasiad Mari, gan ddwyn gyda hwy Salmau mydryddol John Calvin, a chafodd llawer o Eglwysi Lloegr a Scotland flas ar eu canu. Gwnaeth y Saeson amryw geisiadau bore at gyfieithu'r Salmau ar fesur cerdd, ac yn 1562 caed mydryddiad Sternhold a Hopkins, a hwn a fu unig Lyfr Emynau Lloegr am ganrif a hanner. Yn 1696 cyhoeddwyd cyfieithiad rhagorach o waith Tate a Brady, a bu hwn yntau mewn arfer oni chaed cyfieithiad y Doctor Watts yn 1719. Yn 1753 cyfieithodd Dafydd Jones, o Gaio, Salmau Watts i'r Gymraeg.

O ddyddiau Dafydd ab Gwilym i ddyddiau Edmwnd Prys, canai beirdd Cymru yn y mesurau caethion. Nid oedd dim mewn mydr y gellid yn hawdd ei ganu mewn addoliad. Eithr yn oes Prys bu cyfnewid pwysig trwy ddyfod canu yn y mesur rhydd i beth bri. Nid Prys, fel y tybir yn gyffredin, oedd y cyntaf i dorri'n rhydd o hen efynnau traddodiadol y beirdd; gwnaeth Sion Tudur hynny o'i flaen, a golygai fwy o ddewrder a beiddgarwch yn Sion oedd yn "fardd wrth gerdd" nag a wnai yn Prys oedd yn canu ar ei fwyd ei hun." Nid Edmwnd Prys chwaith oedd y cyntaf i ganu salmau cân ar y mesur rhydd a'r mesur salm, ac nid ef a deimlodd gyntaf angen y