Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

genedl am danynt fel cyfryngau mawl. Gwnaed, o leiaf, bum cynnyg i droi'r Salmau i fesur cerdd Gymraeg cyn ymroddi o Prys i'r gwaith. O wneuthur sylw byr o bob un ohonynt dichon y gwelir fyned o Brys i mewn, i ryw fesur, i lafur eraill.

Cyn belled ag y gwyddys, y cynnyg cyntaf i droi'r Salmau ar gân yn Gymraeg oedd un Dafydd Ddu, o Hiraddug. Nid oes ar gael fawr ddim am Dafydd Ddu ond tybiaethau. Tybir yn gyffredin mai offeiriad pabaidd, a Ficer Tremeirchion, Sir Fflint, ydoedd, yn byw ddechreu'r bedwaredd ganrif ar ddeg, os nad yn gynt.[1] Yn y Myvyrian Archeology of Wales ceir cyfieithiadau o amryw Salmau a briodolir iddo. Nid yw Cymraeg y cyfieithiadau o ran na llythyraeth na geiriadaeth yn hen, ond efallai i rywun ei newid mewn oes gymharol ddiweddar. Cyfieithodd Dafydd Ddu chwech ar hugain o'r Salmau. Dyma enghraifft o'i gyfieithu:

Llyma mor dda, mor ddigrif, mor eiddun,
Yw cydbreswyliaw o frodyr yn gyfun,
Megys iraid gwyrthfawr ym mhen dynion,
A ddisgynnawdd ym marf, barf Aaron;
A ddisgynnawdd yn ymylau ei wisg mal gwlith yn Hermon,
Yr hwn a ddisgynnawdd o'r nef hyd ym mynydd Sion;
Canys yno y gorchymmynawdd Duw ei fendith,
A buchedd barhaus yn oes oesoedd, wastad ddichwith.
Salm cxxxiii.

Y nesaf i droi'r Salmau ar gân oedd Sion Tudur. Gorffennodd Gwilym Ganoldref ei fydryddiad Ionawr, 1595, eithr cred rhai haneswyr i Sion Tudur ganu ei salmau beth ynghynt. Yr oedd y ddau fardd yn cydoesi, a bu farw'r ddau o fewn dwy flynedd i'w gilydd. Yn 1588, pan ddaeth Beibl y Doctor William Morgan o'r wasg soniai Sion Tudur am dano'i hun yn hen ŵr. Tybir ei

  1. Enwogion y Ffydd. Cyf. I. tud. 18.