Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eni yn y Wig Fair, yn Llanelwy. Bu farw yn 1602. Ni wyddys yn sicr ei alwedigaeth, eithr gellir casglu oddi wrth ei Gywydd i'r Beibl fod ganddo ryw gysylltiad â'r Eglwys Gadeiriol:

Hen fardd a fu hardd fy hynt
Wyf, a hynaf o honynt,
Tario yng nghansel Llanelwy,
Heb allu mynd i bell mwy.
A chanlyn gair, iawnder oedd,
Iesu, madws im ydoedd,
Darllen yn ffel hyd elawr,
I y 'bobl mwth y Beibl Mawr.

Yr oedd Sion Tudur yn llawer rhagorach bardd nag Edmwnd Prys—ei nwyd farddonol yn gryfach, yn fwy meistr ar y grefft, a'i ddiddordeb ym mywyd cymdeithasol ei oes yn llawer mwy. Y mae'r salmau a gyfieithodd mewn mesur cywydd, ac yn rhifo deg, sef 1, 6, 15, 30, 32, 38, 49, 51, 52, 86. Nid ydynt ar gael onid mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol.[1] Dyma enghreifftiau o'i gyfieithiad:

Salm i.

Dedwydd yw'r gwr diwidwaith
ar na rodiodd mewn modd maith
wrth gyngor di gyfor dig
annuwiolion an nelwig
nag yn ol annuwiol naid
dirras ffordd pechaduriaid. . .

Salm xv.

Arglwydd pwy aroglwydd pell
oth bobl a drig yth babell
pwy drig heb ddim dig ne dwyll
yth fynydd dedwydd didwyll. . .


  1. Y Llyfrfa Gen. Y Llyvyr Hir N.C.IV. MS.