Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn 1603 argraffwyd gan Simon Stafford tros Thomas Salsbri dair ar ddeg o'r salmau a gyfieithodd Edward Cyffin. Ni wyddys ddim yn sicr am Edward Cyffin, ac ofer dyfalu; tybir ei fod naill ai'n frawd neu'n fab i Morus Cyffin. Dysg yr haneswyr na chyfieithodd Edward Cyffin fwy na thair ar ddeg o'r Salmau,[1][2] eithr y mae hyn yn anghywir, oblegid dywed Thomas Salsbri yn ei lythyr yn 1610 at Syr John Wyn gyfieithu o hono tua hanner cant: "Itt rejoyced me not a little when I understood yt your worshippe was inquisitive whether ye psalmes are translated into our vulgar tounge or not I sent you by your man a coppy of them yt are printed (i.e. Edward Kyffin) had finished some fifty of them before hee dyed this time seven yeares in ye time of ye greate sickness." Dywed Mr. W. LI. Davies, M.A., bod y llythyr hwn ym meddiant Mrs. Alan Gough, Gelliwig, Pwllheli.[3]

Ni ellir penderfynu pa un ai Edward Cyffin ai Gwilym Ganoldref a gyfieithodd y Salmau gyntaf, eithr ceir prawf mai Cyfieithiad Cyffin a argraffwyd gyntaf, er i Salsbri gyhoeddi gwaith y ddau yn yr un flwyddyn. Ynei Annerch i'r Darllenydd ar ddechreu gwaith Gwilym Ganoldref, dywed Salsbri ei fod eisoes wedi dechreu argraffu'r Salmau mewn mesur cyffelyb yn yr iaith Frytanaidd." Y dechreu hwn oedd Salm i.—xiii., o waith Edward Cyffin. Awgryma Mr. John Ballinger, M.A., llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, yn The Bible in Wales, i bla 1603, a laddodd y cyfieithydd, Edward Cyffin, atal Thomas Salsbri rhag argraffu'r cwbl a gyfieithwyd, ac na chyhoeddwyd byth y rhan a argraffwyd, yn cynnwys y tair Salm ar ddeg. Y mae awgrym Mr. Ballinger yn un digon rhesymol, a'r rhan olaf ohono'n enwedig, yn wyneb nad oes ar gael ond y copi sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.[3]

  1. Asaph, td. 122.
  2. Glan Menai, td. 113.
  3. 3.0 3.1 W. LI. Davies, M.A. Welsh Met. Vers. of the Psalms, p. 7.