Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyma'r cais cyntaf i droi'r Salmau ar gân mewn mesur y gellid yn hawdd ei ganu, a chan nad oes ond un copi ohono ar gael, rhoddaf yr wyneb—ddalen.

"Rhann o Psalmae Dafydd—Broffwyd Ivv ca | nu
ar ôl y dôn arferedig yn Eglwys Loegr | Simon Stafford
a'i printiodd yn Llundain dros T.S.| 1603."

Yn ei ragymadrodd "At fyngharedigion wlad-wyr y sawl a garant ogoniant yr Arglwydd, ag ymgeledd ei gwladiaith," dywed yr awdur, "wrth weled mor ofalus ydiw ieithyddion eraill am ei gwlad-iaith, a chynnydd yr Efengil drwy holl gred. ag wrth weled a chlywed mor berffaith ag mor hyfryd rydys yn moliannu Duw yn yr holl Eglwysi lle mae'r Efengil yn cael rhyddid, ond Ynghymru yn unig, wrth ganu Psalmae Dafydd, hynny a wnaeth i mi (er gogoniant i'r Arglwydd, a chariad i'm gwlad) ddangos fy wyllys da yn cychwyn hynn o waith ar ddechre cynghaneddu hynn o Psalmae yn nesaf ag ellais at feddwl yr Ysbryd Glân, fel y cefais hwynt yn scrifennedig yn y Scrythyrau."

Ar ddiwedd y llyfryn y mae'r geiriau, "Terfyn ar hynn; hyd oni threfno Duw gymmorth ymhellach." Dyma gyfieithiad Edward Cyffin o'r Salm gyntaf:

1.
Dyn ni rodio dedwydd yw
Ynghyngor an-nuw ddynion:
Yn ffordd pechadwyr ni sai,
Ni steddai'n stôl gwatworion.

2.
Ond ei holl ddifyrwch sydd
Yng-hyfraith Arglwydd nefol:
Ag yn unrhyw gyfraith rydd
Mae beunydd yn fyfyriol.

3.
Fel prenn glan-ddwr dwg ffrwyth pryd,
Ei ir-ddail clyd ni wywa:
Pa beth bynnag wnel ei law
Hynny draw a lwydda.