4. |
Y mae'n eglur oddiwrth resymau Cyffin tros "ddangos wyllys da yn cychwyn hynn o waith," ac oddiwrth gyfeiriadau mynych yng nghywyddau ei gyfoeswyr, yr ofnid cymaint am fywyd yr iaith Gymraeg dri chan mlynedd yn ol ag a wneir yn awr. Meddai Edmwnd Prys yn ei gywydd marwnad i William Cynwal:
Ag iaith Gymraeg weithian, Agos ar goll, gysur gwan; Cyffrois benrhaith ein iaith ni, A chellwair rhag ei cholli.
Efallai mai Capten William Middleton (Gwilym Ganoldref) oedd y cyntaf i droi'r holl Salmau ar gân Gymraeg. Ni ellir bod yn bendant ar hyn, oblegid yr oedd James Rhys Parry yntau yn eu canu yr un adeg, a dichon iddo'u gorffen yn gynharach. Mab Richard Middleton, a fu'n Geidwad Castell Dinbych, a brawd Syr Hugh Middleton, oedd Gwilym Ganoldref. Tybir ei eni tua 1536, a'i farw tua 1600. Bu yn Rhydychen tan addysg, a bwriedid iddo fod yn offeiriad neu'n gyfreithiwr, eithr i'r fyddin y mynnai ef fyned, ac eilwaith i'r llynges. Bu'n gapten ar long rhyfel, ac yn ymladd â'r Ysbaenwyr.