Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn fardd da, ac yn gryn feistr ar yr hen fesurau. Canodd bron yr holl Salmau yn y mesurau caethion. Ar ddiwedd y gwaith dywed iddo'i orffen yn 1595. "Gorffenwyd y gwaith hwn yn Scutum, Ynys yn yr India Orllewinol, y 24ain o Ionawr, yn y flwyddyn o oed Ein Hiachawdwr 1595." Eithr yn 1603, dair blynedd wedi marw'r awdur, yr argraffwyd ef, gan Simon Stafford, yn Llundain, tros Thomas Salsbri. Ail-argraffwyd y gwaith yn 1827 gan Robert Jones, Llanfair-Caer-Einion, tan olygiaeth Gwallter Mechain.

Gorchest anarferol fawr oedd y cyfieithiad hwn o waith Middleton, ac nid oes ddadl am deilyngdod ei amcan. Fel llawer o'r hen uchelwyr, carai'r Gymraeg a'i genedl â chariad mawr, ac aberthai lawer er eu lles. Eithr methodd â chyrraedd ei amcan oherwydd gormod sêl tros hen fesurau'r beirdd. Ni fu ei fydryddiad o'r Salmau, oblegid ei gaethter, o ddim budd fel cyfrwng mawl addolwyr. Wele'i gyfieithiad o'r salm gyntaf:

Gwynfyd o'i febyd gwinfaith
Gwirion dôn i'r gŵr nid aeth
Ar ol cyngor lwc anghall
Y drwg a ro'i fryd ar wall;
Ni salf yn ffordd brif-ffordd brys
Bechaduriaid, baich dyrys,
Nac ar gadair gyfair gawdd
Gwatwarwyr a gyd-dariawdd.
Ond cyfraith Dduw'n faith iawn fydd
Ei ddiddanwch dda ddeunydd,
A'i myfyrio mwy fawredd
Ddydd a nos yn ddiddan wedd.
Bydd ail i bren a blennir
Yn nglan afon dirion dir,
A ddwg ffrwyth ddigyffro haw!
Is irwydd yn amserawl;
Ag ar y brig dêg ir bren
Ni ddielwa un ddalen;