Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ag oll a wnel gwellha'n wir,
A'i law ddyn a lwyddiannir.
Annuwiol fraint ddynol fry
O fall-haint ni bydd felly;
Hwn o fab hoewan a fydd
Fal manus ar fol mynydd,
O'i flaen y gwynt flina' gwaith,
Chwith ammod, a'i chwyth ymaith.
Ni welir annuwiolion
Ofer yn hir i'r farn hon;
A gwn na saif, gwan o said,
Deirawr y pechaduriaid,
Drwy fawl oll, i'r dyrfa lawn
O wŷr cofus—rai cyfiawn.
Duw a edwyn ffordd dyn da;
Dinystrir enwir yna.

Y cyntaf i droi'r holl Salmau i'r Gymraeg ar gân rydd oedd James Rhys Parry. Ni welais ddim mewn argraff yn Gymraeg am yr awdur na'i waith, ac nid oes neb hyd yma wedi ymdrin o gwbl â'i gyfieithiad o'r Salmau. Ychydig o'i hanes sydd ar gael, eithr dywed ei fab, y Parch. George Parry, mai lleygwr o deulu parchus ("a wellborn layman") yn byw yn Ewyas Lacy, yn Sir Henffordd, ydoedd, a'i fod yn noddwr i'r beirdd ac yn fardd o fri ei hun.[1] Dysgir hefyd ei fod o deulu Parry o Poston, yn Henffordd, a Llandyfeilog Tre'r Graig, ym Mrycheiniog.[2]

Y mae mydryddiad James Rhys Parry mewn tair Llawysgrif, sef, "Salmay dafydd broffwyd wedy y Cynghanedy gan Sams Parry o Eyas y Gymraec," Add. MS., 14895, yn yr Amgueddfa Brydeinig; "Salmay dafydd Broffwyd Gwedy gynhaddy mywn brythaniaeth gan Siams Parry o Eyas," Cwrtmawr MS. 28; a "Llyfr Salwyreu Dafydd

  1. George Parry, Llawysgrif Salmau Can, Llyfr. Gen. Cymru.
  2. W. Ll. Davies, M.A., The Welsh Met. Vers. of the Psalms, p. 10.