Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Broffwyd," Peniarth MS. 2206, yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yr unig Lawysgrif a welais i ydyw'r un sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Adysgrif ydyw'r copi hwn o waith John Jones, Gelli Lyfdy, a wnaed ganddo yn 1635, yn ystod un o'i ysbeidiau fel carcharor am ddyled yn y Fleet, Llundain. Y mae'r Llawysgrif a gopïodd John Jones hyd yma ar goll.

Gwahaniaetha Llawysgrif Cwrtmawr beth o ran llythyren a gair oddiwrth gopi John Jones; er enghraifft:

Salm i.

Gwyn (y) fyd y dyn nyd ai
ar ffyrdd y rhai anywiol
ac na cherddodd ddim ar draws[1]
nac isde ar glaws gwatwarol.
(Cwrtmawr MS.).

Gwyn ei fyd y dyn nid ai,
ar ffordd y rai annuwiol
ac na redodd ddim ar draws
nac eiste ar glaws gwatwarol.
(Peniarth MS.).

Y mae hefyd chwech pennill yn Salm i. Peniarth MS., eithr nid oes ond pump yn Cwrtmawr MS.

Ni ellir bod yn bendant am ddyddiad cyfieithiad Siams Parry, eithr y mae'n lled debig ei wneuthur rywbryd rhwng 1595 a 1601, oblegid anfonodd yr awdur y Llawysgrif i'r Doctor William Morgan, cyfieithydd y Beibl pan oedd yn Esgob Llandâf, a chyfnod William Morgan fel Esgob Llandâf oedd 1595—1601. Ni wyddys chwaith o ba iaith y cyfieithodd Parry, ond pair Cymraeg ei gyfieithiad inni feddwl na fanteisiodd ar gyfieithiad y Doctor Morgan; efallai mai o'r Saesneg y cyfieithodd. Y mae llawer o debygrwydd mewn mannau yng nghyfieithiad Siams Parry i gyfieithiad Edmwnd Prys, eithr os mant-

  1. W. Ll. Davies, The Welsh Met. Vers. of the Psalms, p. 10.