Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eisiodd un ar y llall nid Parry oedd hwnnw, fel y profir ym mhellach ymlaen.

Dyma fydryddiad James Rhys Parry o'r Salm i. fel y'i ceir yn Llawysgrif Cwrtmawr:

Gwyn (y) fyd y dyn nid ai
ar ffyrdd y rhai anywiol
ac na cherddodd ddim ar draws
nac isde ar glaws gwatwarol.

Namyn dilyn ewyllis dyw
ac ynte yn clyw ni n keisio
Cadw y ddeddf ddydd a nos
ac arno n glos gweddio.

Tebig y fydd hwnnw y bren
ay ddalen byth heb wiwder
Gwedy blany ar lan nant
ay ffyniant yn y hamser.

Yn y farn y dieflic draw
gan faint y braw ay hofon
ar y pechadyr byth ny sai
Ymysk y rhai dywolion.

dyw a edwyn ac mayn wir
ffyrdd y cywir cyfion
ffyrdd y dieflic a ar goll
ac felly y holl weithredon.

Edmwnd Prys oedd y chweched i gynnyg ar droi'r Salmau ar gân yn Gymraeg. Dyma'i brif waith, a'i gymwynas fawr i'w genedl. Er cymaint ei ddawn a'i ddysg a'i swyddau, ni chofid ef gan yr oes hon onibai am ei Salmau Cân. Rhoddir iddo lawer o glod fel bardd medrus yn yr hen fesurau, eithr y mae'n ddiameu y goddefid i'w gywyddau, er eu bod yn gywrain, gysgu'n dawel yn llwch hen guddfeydd onibai iddo tua diwedd ei oes ganu'r Salmau at wasanaeth addolwyr ei wlad.