Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyhoeddwyd gwaith Prys gyntaf oll yn gysylltiol â'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1621. Dywed Glan Menai, yn ei draethawd ar yr awdur, i'r cyfieithiad ymddangos ar wahan hefyd yn yr un flwyddyn, ond methais â chael prawf o hynny. Y mae Llyfr Gweddi Gyffredin 1621 yn y Llyfrgell Genedlaethol, a wyneb-ddalen mydryddiad Prys fel hyn:


"Llyfr y Psalmau | wedi eu cyfieithu a'i cyfansoddi ar Fesur Cerdd yn Gymraeg | Drwy waith Edmwnd Prys Archddiacon Meirionnydd |a'i Printio yn Llundain, 1621."


Mewn math ar ragymadrodd i'r gwaith rhydd yr awdur ei resymau am na chanodd ar yr hen fesurau caethion y gosodid cymaint bri arnynt gan feirdd ei oes. Er i Edward Cyffin a Siams Parri feiddio cefnu ar yr hen fesurau a chanu yn y mesur rhydd o flaen Edmwnd Prys, nid yw'n debig yr ystyrid hwy yn feirdd o fri, ond yr oedd Prys yn un o feirdd mawr ei oes, a diau y teimlai yntau y dylai ei gyfiawnhau ei hun pan dorrai i ffwrdd oddiwrth hen arfer y beirdd.

Tri pheth a wnaeth na chyfieithiwyd y Psalmau bendigaid ar yr un o'r pedwar mesur ar hugain," ebr Prys. Yn gyntaf, ni allai "ryfygu clymu'r Scruthur Sanctaidd ar fesur cyn gaethed" rhag pechu yn erbyn Duw. Yn ail, y mae Gair Duw i'w ganu gan gynulleidfa yn unllais, yr hyn ni ellid pe troid ef i'r mesurau caethion. Yn drydydd, gall pawb ddysgu " pennill o garol," eithr ni all "ond ysgolhaig ddyscu cywydd neu gerdd gyfarwydd arall."

Bu llawer o ddyfalu ynglŷn â chymhellion Prys i ymgymryd â gorchest mor fawr, eithr ni ddyfalwyd dim pendant hyd yma. Tybir yn gyffredin fod a fynno sylwadau Morus Cyffin ynglŷn â throi'r Salmau ar gân, yn ei ragymadrodd i'w gyfieithiad o Ddiffyniad Ffydd Eglwys Loegr, rywbeth â symud yr Archddiacon at y gwaith. "Gwaith