Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rheidiol iawn," ebe Cyffin, "fyddai troi y Psalmau i gynghanedd Gymraeg, . . . . nid i fath yn y byd ar gerdd blethedig, fel y gallo'r bobl ganu i gyd ar unwaith yn yr Eglwys." Y mae ail reswm Prys tros ganu yn y mesur gwael hwn" yn peri credu y rhoddai bwys ar awgrym Morus Cyffin. Nid yw'n annhebig i'r Doctor William Morgan ei annog. Y mae prawf i'r ddau ynghyd drin y pwnc, ac i Forgan roddi benthyg i Brys rai defnyddiau a allasai fod o help iddo. Wrth gwrs, gwyddai Prys cystal ag undyn am angen crefyddwyr ei oes o gyfryngau mawl, a dichon mai'r wybodaeth honno'n fwy na dim a'i cymhellai.

Eithr beth am ei ddyled i eraill? Yr ydym yng nghyfnod ymlid y cewri a'u difa. Yn ddiweddar cododd y cigfrain llenyddol, a disgynasant ar rai fel William Owen Pughe, Iolo Morgannwg, ac hyd yn oed Goronwy Owen, ac o farnu wrth eu crawciadau bu celanedd fawr. A lwydda Edmwnd Prys i ddianc rhag tynged y rhain? Gwyddai ef am gyfieithiad Sternhold a Hopkins o'r Salmau i'r Saesneg yn 1562, ac mewn mannau y mae llawer o debygrwydd rhwng ei gyfieithiad ef a'u cyfieithiad hwy. Eithr ni phrawf hynny ddibynnu ohono ddim arnynt. O gyfieithu'n gywir feddwl y Salmydd ymdebygent o raid. Y mae'r un peth yn wir am debygrwydd ei gyfieithiad ar brydiau i gyfieithiad y Doctor William Morgan. Bu'n darllen ac yn beirniadu Salmau Cân Gwilym Ganoldref, fel y dangosir ymhellach ymlaen, ond ni fanteisiodd ddim arno ef oni chafodd ei argyhoeddi ganddo, fel y cafodd y Ficer Pritchard, mai ofer canu yn y mesurau caethion. Dywed yr hen Ficer, gan gyfeirio at waith Gwilym Ganoldref:

Am weld dwfn-waith enwog Salesbury,
Gan y diddysg heb ei hoffi,
Cymrais fesur byr cyn blaened,
Hawdd i'w ddeall, hawdd i'w styried.