Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffaith nad oedd yn wybyddus cyn ei chyhoeddi gan Mr. W. LI. Davies yn Awst 1923,[1] ydyw, i Salmau Cân James Rhys Parry, o Ewyas, fod ym meddiant Edmwnd Prys cyn iddo ddechreu ar ei gyfieithiad ei hun. Cyfieithodd y Parch. George Parry, mab James Rhys, y Salmau i fesur cerdd, heb fod yn ddiweddarach na 1675, ac yn ei annerch i'r darllenydd dywed i'w dad gyflwyno'i Lawysgrif ef o'i gyfieithiad i'r Doctor William Morgan oedd ar y pryd (1595—1601) yn Esgob Llandâf, ac i'r Esgob ei rhoddi'n fenthyg i Edmwnd Prys, a chaniatau iddo hefyd adysgrifennu gwaith Gwilym Ganoldref gan Thomas Salsbri.[2] Felly, y mae sicrwydd i Prys weled cyfieithiad Siams Parri cyn dechreu ar ei waith ei hun; a dywed George Parry ymhellach, i waith ei dad fod yn gymhellydd i Prys ymgymryd â'r gorchwyl o gyfieithu'r Salmau.

Gwneuthum beth ymdrech i gymharu cyfieithiad James Rhys Parry (Peniarth MS) â chyfieithiad Edmwnd Prys, ond ni chefais brawf fenthyca o Brys ddim oddiar Parry, na manteisio ar ei gyfieithiad mewn unrhyw ystyr arall. Petai meistr mwy na mi ar hen lawysgrifau, ac un â mwy o hamdden, yn mynd at y gwaith o gymharu, hwyrach y deuid ar draws profion o ddyled Prys.

Ni cheisiaf fwrw barn ar waith mawr yr Archddiacon; y mae hynny ymhell o'm cyrraedd i. Hyfdra noeth, os nad rhyfyg, fyddai i neb feirniadu'i gyfieithiad oni fyddai, o leiaf, yn gymaint meistr ag yntau ar yr iaith Hebraeg. Dysg rhai llenorion cyfarwydd mewn ieithoedd y gwyddai Prys Hebraeg yn dda, ac y rhagora'i gyfieithiad yn aml ar gyfieithiad y Doctor William Morgan. Ni ddylai neb feirniadu iaith y Salmau Cân chwaith, ond y sawl a ŵyr Gymraeg oes yr awdur, a Chymraeg hynach na hynny.

Ychydig yw'r rhai cymwys i ffurfio barn gywir am waith Prys, eithr dywed y rhai hynny fod ei gyfieithiad

  1. Met. Vers. of the Psalms, p. 15.
  2. George Parry. Y Salmau Cân, Llawysgrif. Llyfr. Gen. Cymru.