Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r Salmau yn odidog, a phrawf nifer yr argraffiadau a gaed ohono ei fod yn ddefnyddiol a phoblogaidd; o 1621 hyd 1799 caed cynifer a 48 o argraffiadau. Dyma'r Salm gyntaf wedi ei chopïo o argraffiad 1621:

Y SAWL ni rodia, dedwydd yw,
yn ôl drwg ystryw gyngor;
Ni saif ar ffordd troseddwyr ffôl,
nid eiste'n stôl y gwatwor.

Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd
ar ddeddf yr Arglwydd uchod:
Ac ar ei ddeddf rhydd, ddydd a nos,
yn ddiddos ei fyfyrdod.

Ef fydd fel pren plan ar lan dôl,
dwg ffrwyth amserol arno;
Ni chrina'i ddalen, a'i holl waith
A lwydda'n berffaith iddo.

Nid felly bydd y drwg dirus,
ond fel yr us ar gorwynt;
Yr hwn o'r tir â'i chwyth a'i chwal,
anwadal fydd ei helynt.

Am hyn y drwg ni saif mewn barn,
O flaen y cadarn uniawn:
Na'r pechaduriaid mawr eu bar,
Ynghynulleidfa'r Cyfiawn.

Canys yr Arglwydd Dduw, fel hyn,
a edwyn ffyrdd gwirioniaid:
Ac ef ni ad byth i barhau,
mo lwybrau pechaduriaid.

Gan mai diben ymdrin â'r cyfieithwyr bore ydoedd arwain i fyny at Edmwnd Prys, dichon nad oes reswm tros