Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

son am neb a ddaeth ar ei ol. Eithr gan i mi ddwyn enw George Parry i mewn ynglŷn â Salmau Prys, a chan nad oes dim erioed wedi ei argraffu yn Gymraeg am ei gyfieithiad ef, nac yn Saesneg ychwaith, ac eithrio sylwadau Mr. W. LI. Davies yn ei Welsh Metrical Versions of the Psalms, 1923, goddefer i mi roddi peth o hanes yr awdur a'i waith fel cyfieithydd y Salmau.

Mab James Rhys Parry, o Ewyas Lacy, oedd George. Ni wn ddim o'i hanes bore, ond cafodd addysg dda, oblegid enillodd radd B.A. yn 1633/4, a bu'n brifathro Ysgol Ramadeg yn nhref Caerfyrddin. Nid oes sicrwydd pa bryd na faint o amser y bu yno, eithr os ydyw'r dybiaeth gyfieithu ohono'r Salmau tua 1672 yn gywir, rhaid ei fod yng Nghaerfyrddin tua 1639, oblegid dywed yn ei annerch i'r darllenydd sydd o flaen ei gyfieithiad, fod tair blynedd ar ddeg ar hugain er pan oedd yn feistr Ysgol yng Nghaerfyrddin. Yr oedd yr awdur yn offeiriad, ond nid oes sicrwydd a oedd mewn urddau pan yn athro ysgol. Bu un o'r enw George Parry yn Ficer Dingeston o 1640 hyd 1645, a chredir mai ef oedd hwnnw. Yn ei annerch i Henry Somerset o flaen Rhan I. ei gyfieithiad dysg fod ganddo ryw gysylltiad ag Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac y mae'n debig mai ef oedd George Parry, rheithor Cheriton, a fu farw yn 1678.

Y mae cyfieithiad George Parry o'r Salmau mewn Llawysgrif, a ysgrifennwyd ganddo ef ei hun, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Hwn ydyw'r unig gopi sydd ar gael. Y mae hanes yr hen Lawysgrif yn un diddorol lawn. Bu'n gorwedd mewn cuddfan neu'n crwydro mewn cysgodion am 236 o flynyddoedd. Nid oes air o sôn am dano yn ystod y blynyddoedd hynny. Eithr tua phymtheg mlynedd yn ol prynodd rhywun ef am ychydig geiniogau oddiar fainc llyfrau ail law yn Lambeth, Llundain, a rhoddodd y prynwr ef i Mr. John Francis, Clapham; cyflwynodd yntau ef i Brifysgol Cymru, ac o'r diwedd daeth i gartref sefydlog yn y Llyfrgell Genedlaethol.