Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'r gwaith hwn yn dair rhan, a chyflwynir pob rhan i noddwr,—Y Rhan Gyntaf, Salm 1—50, i Henry Somerset, Marquis of Worcester; yr Ail Ran, Salm 51100, i Henry Benet, Lord Arlington; a'r Drydedd Ran, Salm 101—150, i Syr Thomas Williams, Royal Physician. Yn y Rhan I, 1—46, dilyna George ei dad ac Edmwnd Prys o ran mesur, a dywed, "Mesur gynhelir drwy yr holl Ran Gyntaf hon sydd gan mwyaf yn ol dull yr hen Awdwl Gywydd (Agos); ag yn rhydd oddiwrth y Gynghanedd Ganolig, oddieithr o ddamwain." Dyma'i gyfieithiad o'r Salm Gyntaf:

Gwynfyd y dyn, ni rodia'n ghôr
gŵyr gynghor gwŷr annuwiol:
Ni thwyllir gan yr enwir blaid,
blin bechaduriaid hudol.

Yr hwn sydd yn ffieiddio câs
gymdeithas drwg weithredwyr:
Ni saif ny ffyrdd, nid eistedd aingc
Gwawd-gaingc, ar faingc gwatworwyr.

Holl serch yr hwn, a meddwl fryd
ei galon hyfryd wiwlan
Sy ddydd a nos ar ddyw ay air
Ei ddeddef ddiwair burlan.

Bydd hwn fel pren a blennir bron
ar ymyl afon lariaidd:
Yr hwn a ddwg ei ffrwythau per
Mewn pryd ag amser gweddaidd.

Ei ddail ni wywant fyth, ay frig
yn irwydd trig bob amser
pob peth a wnel fydd rhwydd a da
ei waith nid â yn ofer.