Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eithr nid felly ddim y bydd
i'r dyn aflonydd diffaith:
ond fel yr us y bydd ei hynt
Gan wynt a chwythir ymaith.

Yn nydd y farn, ni rydd Dyw naid
ir drwg enwiriaid ofnus
Sefyll ni chânt ym mhlith, yn hir
y dyrfa gywir breintus.

Yr holl Alluog ddyw o'r ne'
hwn wêl pob lle yn eglyr
a edwyn ddiddrwg ffordd y da
a ffyrdd y gwaetha gollyr.

Yn yr ail a'r drydedd ran amrywia'r mesurau, a chenir yn y mesurau caethion yn ogystal ag yn y mesur rhydd. Dyma dair adnod gyntaf Salm 51:

Wrthyf Dyw trugarha
yn ol dy fawr drugaredd
dy drugareddau amlha
Dileua fy anwiredd.

In wyn Golch fenaid achlan
Golch fi yn lan o'm pechawd
Cans addef wyt a ger fy mron
Mae'n guydion i yn wastawd.

Cân yr awdur yn aml yn llithrig a chlir. Dyma'r trydydd a'r pedwerydd pennill o Salm 84:

Fy nghalon a fy nghnawd a lef
am fyw yn nhref dyw bywiol,
Pwy bryd y caf neshay i dŷ
Yr Arglwydd sy dragwyddol.

Gwyn fyd Aderyn brŷch y to
a gafas yno letty:
ar wenol folwen wnaeth ei nyth
yn ddilyth i anneddy.