Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Salm 113, pennill cyntaf:

Molwch yr Arglwydd, molwch ef,
Chwi weision ffyddlon, Arglwydd nef
Molwch ei enw ef yn hyf
Sancteiddiol bid mawr enw Naf
a bendigedig byth y sa'f
Ardderchawg enw yr Arglwydd cryf.

Dywed George Parry, yn ei annerch i'r darllenydd, roddi ohono'r gwaith ar ol ei orffen i'w gadw am flwyddyn, ac wedyn, iddo fod am flwyddyn arall ym meddiant Francis Davies, Esgob Llandâf. Bu Francis Davies yn Esgob Llandâf o 1667 hyd 1675. Y tebig ydyw wneuthur o George Parry'r cyfieithiad o fewn y blynyddoedd hyn. Cred Mr. W. LI. Davies, M.A., na all y gwaith fod yn gynharach na 1672, a thyn ei gasgliad oddiwrth y ffaith gyflwyno o Parry Rhan gyntaf y gwaith i "Henry Somerset . . . . Lord President of the Council of the Marches of Wales," ac yn 1672 y penodwyd Somerset yn llywydd y Cyngor.

Ni wyddys o ba iaith y cyfieithodd George Parry. Yn y Llawysgrif ceir cyfieithiad o'r Salmau yn y Lladin yn gyfochrog â'r cyfieithiad Cymraeg, fel y gall y sawl a ŵyr y ddwy iaith gymharu'r ddau gyfieithiad. Nid oes ar gyfieithiad George Parry gymaint o gamp o lawer ag sydd ar Salmau Edmwnd Prys, eithr credaf fod ynddo amryw Salmau teilwng o le yn llyfrau Emynau Eglwysi Cymru.