Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Williams, Pantycelyn
ar Wicipedia





PENNOD III.

WILLIAM WILLIAMS,
PANTYCELYN.

DYNODIR sefyllfa grefyddol ac ysbrydol oes gan nodwedd ac amlder ei hemynau. Ni chafodd y genedl Gymreig un Diwygiad crefyddol mawr heb i ganu mawl fod yn elfen bwysig ynddo, ac y mae canu effeithiol yn amhosibl heb emynau. Ar gychwyn y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, teimlid angen arbennig am emynau i'r addolwyr fynegi'u profiadau newydd trwyddynt. Cyfoeth ysbrydol gwlad ydyw cyfle'r emyn. Hyn, mewn rhan, onid yn gwbl, yw'r rheswm fod mwyafrif emynwyr mawr Cymru wedi ymddangos bron yr un adeg, yn y Deheubarth, a hynny o fewn ychydig filltiroedd i'w gilydd. Yn Sir Gaerfyrddin ceid Williams, Pantycelyn, Dafydd Jones, o Gaio, Morgan Rhys, Dafydd Williams, Ioan Sanders, ac eraill. Ym Morgannwg, Thomas Williams, Bethesda'r Fro, a John Williams, St. Athen. Yn Sir Aberteifi canodd Daniel Rowlands beth, a Harri Shôn yntau ym Mynwy. Yr oedd emynwyr goreu'r Gogledd, megis Ann Griffiths, Pedr Fardd, Robert ap Gwilym Ddu, Ieuan Glan Geirionydd, ac eraill, yn ddiweddarach. O ddyddiau Edmwnd Prys hyd y Diwygiad Methodistaidd cyfnod o fwy na chan mlyneddni cheir un emynwr mawr, nac un emyn da. Eiddo Elis Wyn yw'r goreu, ac nid yw ei rai yntau ond mydryddiad i'r Ysgrythur, megis "Myfi yw'r Adgyfodiad Mawr," "Mi wn, medd Job, o'r cynfyd cudd," etc. Bu'r Eglwys yn cyflwyno'i mawl oreu y gallai trwy'r "Salmau Cân" oni ddaeth Williams, Pantycelyn, i gyflwyno iddi ragorach moddion.