Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae mwy wedi'i sgrifennu am Pantycelyn nag am holl emynwyr Cymru gyda'i gilydd, ac eithrio Ann Griffiths; eithr trwy beth ymofyn darganfum bod y mwyafrif o'r sawl sy'n arfer ei emynau ar hyd eu hoes yn resynus o brin eu gwybodaeth am dano. Ni wyddant fan a blwyddyn na'i eni na'i farw. Tybiant bod a fynno ef rywbeth unwaith â'r Eglwys Wladol, ac â'r Diwygiad Methodistaidd, a'r unig beth a ŵyr y werin yn sicr ydyw bod Williams yn emynydd mawr. Credaf bod cymaint o eisiau sgrifennu'n helaeth ac yn aml am Pantycelyn ag sydd am unrhyw un o gymwynaswyr ein cenedl.

A haul Williams yn machlud, yr oedd Thomas Charles o'r Bala yn anterth ei nerth, ac iddo ef y mae Cymru'n ddyledus am hynny o hanes sicr a geir i'r emynydd. Ysgrifennodd Charles gofiant bras i Drysorfa Ionawr, 1813, ac o'r fan honno y cafodd Kilsby, a'r Gwyddoniadur, a Chymru Owen Jones, holl ffeithiau'r hanes.

John a Dorothea Williams oedd rhieni'r emynydd. Nid oes sicrwydd am na dydd na blwyddyn geni William Williams. Nodir ar garreg ei fedd iddo farw yn 74 mlwydd oed, ar yr 11 o Ionawr, 1791, a chesglir oddi wrth hyn ei eni yn 1717. Dichon nad ydyw'r oedran sydd ar y garreg yn gwbl gywir, ac mai amcangyfrif ydyw. Y mae hyn yn debig, oblegid dywed John Williams (Gwernogydd), un o gyfoedion Williams, yn ei Ysgriflyfr a geir yn Llyfrgell Abertawe, mai 73 ydoedd yn marw, a dywed Williams yntau yn ei lythyr olaf i'r Parch. Thomas Charles, ychydig ddyddiau cyn marw, mai 73 ydoedd.

Yng Nghoflyfr Eglwys Llanfair ar y Bryn, cofnodir bedydd William, mab i John a Magdalena Williams, o'r Rhandir Issa, ar Ebrill 29, 1716. Cred y Parch. D. Edmondes Owen, Ficer Llanymddyfri, mai'r emynydd Pantycelyn ydyw'r William hwn, ac eglurai i'r Parch. M. H. Jones, B.A., Penllwyn, mai diffyg y cofnodydd ydoedd ysgrifennu Magdalena ac nid Dorothea fel enw'r fam. Cyfrifai am y diffyg trwy egluro mai copi amherffaith o'r coflyfr yw'r unig un sydd ar glawr am y cyfnod