Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uchod, ac mai hawdd i un fethu wrth gopio neu geisio copio pan yn cofnodi yn y tŷ ymhen rhawg wedi'r bedydd.[1] Pe gellid rhoddi llaw ar y coflyfr gwreiddiol dichon y ceid sicrwydd; onis gwneir, rhaid parhau mewn amheuaeth.

Ystyrid rhieni'r emynydd yn yr oes dywyll honno yn bobl feddylgar a chrefyddol anarferol. Ymneilltuwyr oeddynt, yn aelodau o Eglwys Annibynnol Cefnarthen, a bu John Williams yn ddiacon oni chrewyd terfysg trwy ddyfod athrawiaethau Arminaidd i mewn. Ni ddywedir pa un a'i gwrthwynebiad i'r athrawiaethau newydd neu ynteu lledneisrwydd ysbryd yn gwneuthur addoli mewn terfysg yn anodd a barodd i'r diacon droi cefn ar yr Eglwys. Yn y terfysg ymneilltuodd ef a'i deulu, ynghydag eraill, a sefydlu a wnaethant eglwys newydd mewn amaethdy o'r enw Clinpentan, a chyn hir iawn adeiladwyd capel Pentre-tŷ-gwyn, ar dir Pantycelyn, a roddwyd yn rhad gan Dorothea Williams. Daethai etifeddiaeth Pantycelyn i Dorothea ar ol ei brawd a fu byw a marw'n ddibriod, a thrwyddi hi y disgynnodd Pantycelyn i'w mab William. Bu farw John Williams tua'r flwyddyn 1739, eithr bu'r fam byw hyd o fewn saith mlynedd i derfyn oes ei mab. Cafodd hi oes faith o 95 o flynyddoedd, ac ni wybu lawer am wasgfa a thrallod blinfyd.

Ni wyddys ond ychydig am ddyddiau bore'r emynydd. Yr oedd yn un o chwech o blant, ac ef yn unig o dri mab a welodd oedran gŵr. Diau ei fagu'n dda ar aelwyd glyd a chymen, ac iddo gyfranogi o fanteision goreu addysg ardal ei gartref. Ceir profion iddo orffen ei addysg yn Athrofa Llwynllwyd. Ychydig a ddiogelwyd o hanes yr ysgol hon, eithr y mae'r ffaith i ddau o enwogion pennaf Cymru, sef Howell Harris a William Williams, dderbyn cyfran fawr o'u haddysg ynddi yn ddigon i gadw'n fyw am byth ei henw. Cytuna haneswyr mai yn Llwynllwyd y gorffennodd Williams ei addysg, ond gwahaniaethant

  1. Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd. Cyf. III. Rhif 2.