Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawer ynglŷn â phwy ydoedd yr athro. Myn y Parch. Thomas Charles, a Methodistiaeth Cymru, mai'r Parch. David Price, gweinidog eglwys Annibynnol Maesyronen ydoedd; eithr deil y Parch. Thomas Rees, D.D., yn The History of Protestant Nonconformity in Wales; Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru; Cymru, gan Owen Jones, Y Gwyddoniadur, Gweithiau Williams, gan Gynhafal, a Diwygwyr Cymru gan Beriah, mai'r Parch. Vavasor Griffiths, gweinidog Maesgwyn, ydoedd. Credaf y profir tuhwnt i bob amheuaeth gan y Parch. T. Shankland, M.A.,[1] mai'r ddau gyntaf sy'n gywir. Yr oedd dwy Athrofa, sef Llwynllwyd, ger Glasbury, ar ororau deheuol Sir Faesyfed, a'r Parch. David Price yn athro iddi; a Maesgwyn, ym mhlwyf Bugeildy, yn eithaf gogledd-ddwyrain Maesyfed, a'r Parch. Vavasor Griffiths yn athro ynddi. Yr oedd tros bum milltir ar hugain rhwng Llwynllwyd a Maesgwyn.

Ymddengys mai'r Parch. Thomas Rees, D.D., yn 1861 a gychwynnodd y cyfeiliornad ynglŷn â'r athro, a dilynwyd ef gan bob hanesydd oni thywysodd y Parch. T. Shankland ni'n ol i'r trywedd cywir. Dyma bellach derfyn ar yr hen amryfusedd. Nid oes le i ddadl mwy ynglŷn ag Athro Harris a Williams yn Llwynllwyd.

TROEDIGAETH YR EMYNYDD.

Gwyddai Williams lawer am grefydd er yn blentyn. Gwybu am allor ac aberth ar aelwyd Cefncoed, a chlywodd bregethu am bechod a maddeuant o bulpudau Cefnarthen a Phentretygwyn, eithr tyfodd i fyny fel ei gyfoedion yn ysgafn a chwaraes ei fryd, ac aeth i athrofa Llwynllwyd heb ddim profiad o grefydd ysbrydol. Testun siarad a syndod byd ac eglwys yng Nghymru y dyddiau hynny ydoedd y diwygiwr ieuanc ac afreolaidd Howell Harris. Peth ar gyfyl rhyfyg yn ol rheolau'r Eglwys Wladol ydoedd i ddyn heb urddau bregethu'r Efengyl, a pheth llawn mor afreolaidd ac annisgwyliadwy yn yr oes ddiog a chysglyd

  1. Y Beirniad, Awst, 1918.