Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

honno ydoedd i bregethu neb pwy bynnag fod tan ddigon o eneiniad y nefoedd i ddeffroi gwlad ac achub pechaduriaid. Dechreuasai Harris bregethu yn y flwyddyn 1736, ac yr oedd Williams yn athrofa Llwynllwyd, chwe milltir o Dalgarth, yn 1738, a diau glywed ohono lawer am y diwygiwr gan ei gydfyfyrwyr ac eraill. Naturiol i fachgen brwd a chywrain ei ysbryd, a mab i flaenor, awyddu gweled a chlywed y pregethwr ieuanc a gynhyrfai wlad gyfan. Cydredai'r hen ffordd o Lwynllwyd i Dalgarth â mur mynwent Eglwys y plwyf,—y mae'r ffordd bresennol led cae bychan i lawr o'r fynwent, ac ar hyd yr hen ffordd. hon y teithiai William Williams un bore Sul. Ac efe'n dynesu at yr Eglwys clywai lais clir Harris yn cyhoeddi Efengyl y tangnefedd i gynulleidfa fawr. Wedi cyrraedd y dorf, ymwthiodd y llanc drwy ei hymylon yn ddigon agos i weld y pregethwr a bregethai wrth borth yr eglwys. Gwnaed gwyrth ar y myfyriwr ieuanc y bore hwnnw, a throdd yntau o'r oedfa a'i wyneb tua'r wawr, i fod yn sant, yn bregethwr, a phrif emynydd ei genedl. Tynnwyd darlun gan ddarfelydd hoyw Hiraethog o effeithiau y bachgen-bregethwr ar y bachgen-ysgol:—"Y mae yn gyffro cyffredinol; ond pa le mae y gŵr ieuanc diddorol hwnnw? Dacw efe, a'i wyneb wedi gwynlasu, a'i holl gorff yn ysgwyd gan gryndod a braw. Y mae yn wir ddelw o ddychryn. Disgwylia bob moment weled Mab y Dyn yn dyfod ar gymylau y Nefoedd—aeth rhyw saeth loew-lem oddi ar fwa athrawiaeth y gŵr sydd ar y gareg fedd acw i'w galon.[1] Y mae cleddyf daufiniog wedi ei drywanu hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd. Y mae ganddo olwg wahanol arno ei hun yn awr i'r hyn a fu ganddo erioed o'r blaen. Mewn gair, y mae yn ddyn newydd. Daeth allan o'r fynwent y bore hwnnw wedi ei greu o newydd."

  1. Nid ar garreg fedd y safai'r pregethwr, eithr "o flaen porth yr Eglwys eang, heb un twmpath dan ei droed." Gweler Farwnad Williams i Harris.