Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid dychymig penrhydd sydd yn narlun Hiraethog, eithr lliwiau a chyffyrddiadau a gyfiawnheir gan ffeithiau. Dywed Williams ei hun rywbeth am yr oedfa ryfedd honno:

"Dyna'r fan fyth mi gofiaf,
Clywais innau llais y nef
Dalwyd fi wrth wŷs oddi uchod
Gan ei sŵn ddychrynllyd ef
Dyna'r fan trwy'n fyw mi gofiaf
Gwelais i di gynta' erioed,
O flaen porth yr eglwys eang,
Heb un twmpath dan dy droed;

Ni wyddys ddim pendant o helynt Williams wedi'r oedfa hon oni cheir ef yng ngwasanaeth yr Eglwys Wladol fel Curad. O'r pellter hwn anodd gweled ei lwybr o aelwyd Anghydffurfiol Cefncoed, ac o oedfa fythgofiadwy un

Heb arddodiad
Dwylaw dynion o un rhyw,

i urddau yr Eglwys Loegr. Urddwyd ef yn ddiacon ym. Mhlas Abergwili, yn 1740, gan ŵr o'r enw Nicholas Claget, Esgob Tŷ Ddewi, a phenodwyd ef i guradiaeth Llanwrtyd a Llanddewi Abergwesyn, tan ofal Theophilus Evans, awdur Drych y Prif Oesoedd. Tariodd dair blynedd yma, ond oherwydd anwybodaeth ddygn y bobl a'u bywyd bâs a llwgr, ni lwyddodd yn fawr er gweithio'n ddyfal a chaled. Cartrefai'n ystod tymor ei guradiaeth yng Nghefncoed, ac ymddengys ei fod cyn hyfed â phregethu'n aml y tuallan i'r plwyfydd tan ei ofal. Ystyrid hyn gan awdurdodau'r Eglwys yn drosedd dybryd a pheryglus, a galwyd ef i gyfrif am dano. Ni chafodd well urdd nag un diacon,—" offeiriad hanner pan," chwedl gwerin gwlad Goronwy. Gwrthododd yr Esgob urddau cyflawn iddo oherwydd ei gydymdeimlad â'r Methodistiaid. Dywed y Parch. Daniel Rowlands fod Williams wedi ei